‘Dw i ddim yn mynd i gytuno neu anghytuno, clodfori na barnu, unrhyw beth a ddywedodd Mike Parker, ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion, na’r Cynghorydd Huw Thomas, ymgeisydd y Blaid Lafur yno, flynyddoedd yn ôl. Nid oherwydd fy mod am osgoi gwneud unrhyw ddatganiadau gwleidyddol, neu am fod gen i ddim teimladau perthnasol (credwch chi fi, mae gen i). Y rheswm ‘dw i ddim yn mynd i gytuno neu anghytuno’r naill ffordd na’r llall yw, wir i chi, dyw rhywbeth gwnaeth Mike Parker ysgrifennu mewn erthygl yn 2001 pan oedd yn ysgrifennwr teithio proffesiynol, na rhywbeth yr ysgrifennodd Huw Thomas ar Maes-E pan oedd yn fyfyriwr yn 2006, o fawr o bwys imi.
Weithiau, mae’r hyn mae rhywun wedi ei ddweud yn gallu bod yn arwydd o’i natur nhw, ‘dw i’n derbyn hynny. Er enghraifft, pe bai Mike Parker wedi dweud fod pob Sais yn ffasgwr hiliol ac yn ffiaidd, neu phe bai Huw Thomas wedi annog pobl i achosi trais yn erbyn Saeson yn ystod Cwpan y Byd, byddwn yn cwestiynu a yw’r un ohonynt yn ymgeiswyr addas i’w pleidiau.
Ond y gwirionedd amdani yw ein bod yn byw mewn byd ble mae modd i unrhyw un gyhoeddi unrhyw beth ar unrhyw adeg. Ar unrhyw foment, mae dau neu dri ddyfais ar fy mherson y galla i eu defnyddio i bostio rhywbeth ar y we yn gyhoeddus i’r byd cael ei weld. Ry’n ni hefyd yn byw mewn byd pan fod unrhyw un sydd â digon o allu technolegol (a digon o amser ar ei ddwylo hefyd) yn gallu atgyfodi rhywbeth dadleuol y dywedodd neu a wnaeth unrhyw berson arall flynyddoedd ynghynt.
‘Dw i’n trydar yn weddol aml. Ar adegau, ‘dw i wedi trydar pan fy mod i wedi meddwi, neu phan fy mod yn grac, ac wedi dyfaru gwneud. Gan fy mod i’n berson sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth – sydd wedi bod yn ymgyrchydd ac sy’n gweithio fel cyfathrebwr ac ymgyrchydd proffesiynol – ‘dw i efallai braidd yn fwy gofalus na’r person ar y stryd.
Mae pobl wastad wedi dweud a gwneud pethau dadleuol, pethau maen nhw efallai’n dyfaru. Y gwahaniaeth yw: erbyn hyn, mae fwy neu lai yn amhosibl dileu’r pethau hynny o gof bythol y we fyd-eang. Duw a ŵyr fy mod i bownd o fod wedi dweud pethau dadleuol yn y gorffennol a allai peri problemau imi pe bawn i erioed yn sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad. Hyd yn oed os na ‘dw i wedi dweud unrhyw beth dadleuol, ‘dw i bendant wedi dweud pethau ar Twitter ac ar Facebook sy’n embarrassing. Gofynnwch wrth unrhyw un fy oedran i a ydyn nhw’n gwingo a’n gwrido pan fo nhw’n edrych ‘nôl ar y pethau y dywedon nhw ar Facebook (neu MySpace, Bebo, ayyb) pan oedden nhw’n iau. Heb os, yr ateb fydd eu bod nhw.
I ryw raddau, ar wleidyddion mae’r bau am fod yn barod i ddefnyddio pethau o’r fath yn erbyn ei gilydd er mwyn ennill pwyntiau gwleidyddol byr-dymor. ‘Dw i’n deall pam fo nhw’n gwneud hynny, wrth gwrs, ond ry’n ni gyd yn gwybod fod gan bawb fwganod yn y cwpwrdd os edrychwch chi’n ddigon agos.
Yn ogystal, mae bau ar y cyfryngau am wneud yn fawr o’r pethau hyn. Oes wir ots am rywbeth ddywedodd rhywun mewn erthygl bron i bymtheg o flynyddoedd yn ôl, neu rywbeth ddywedodd rhywun arall ar fforwm ar-lein pan oedd yn fyfyriwr? ‘Dw i’n tueddu i feddwl nad oes unrhyw ots o gwbl.
Mae’n hen bryd i ni gyd – gan gynnwys gwleidyddion a’r cyfryngau – sylweddoli ein bod yn byw mewn byd digidol. Edrychwch ymlaen ddeng mlynedd neu ugain mlynedd. Mae’n hollol hurt i feddwl y bydd y cyfryngau’n ysgrifennu straeon am bopeth twp wnaeth bob ymgeisydd erioed ddweud – os daw dyna wnawn nhw, fydd dim amser ‘da nhw ar gyfer newyddiaduraeth go iawn!
Sa i’n gwybod beth fydd goblygiadau gwleidyddol yr helynt diweddar i’r ddau ŵr y soniais amdanynt, er mae’n siŵr fod gan bob un ei farn ei hun am hynny. Ond ‘dw i’n gwybod fod pethau fel hyn yn gwneud mwy i ddatgysylltu pobl rhag wleidyddiaeth na’u hannog i fod yn ddinasyddion sy’n cyfranogi ac yn poeni am etholiadau a’r bobl sy’n ein cynrychioli. O gofio taw dim ond rhyw 45% o bobl 18-24 mlwydd oed wnaeth pleidleisio yn ystod yr Etholiad Cyffredinol diwethaf, a bod miloedd o bobl ifanc – pleidleiswyr tro cyntaf – wedi cwympo bant o’r gofrestr etholiadol, mae ‘da’r Sefydliad eitha lot o feddwl i’w wneud am sut mae’n mynd i ymdopi â’r byd gwleidyddol yn y 21ain ganrif – ‘dw i ddim yn argyhoeddedig o bell ffordd ei bod yn gwybod beth mae’n wneud.
Anya is live and ready to show you everything. Watch her strip, dance, and perform exclusive shows just for you. Interact in real-time and make your fantasies come true.
✓ Live Streaming✓ Interactive Chat✓ Private Shows✓ HD Quality✓ Free Actions
Free to watch • No registration required • HD streaming
Wedi bron i bum mlynedd ar Bwyllgor Gwaith Plaid Cymru Ifanc (CymruX tan 2012), a llawer o ystyried yn ystod yr wythnosau a’r misoedd diwethaf, rwyf wedi rhoi gwybod wrth aelodau’r Pwyllgor Gwaith heno fy mod yn ymddiswyddo ar unwaith fel Cyfarwyddwr y Wasg a Chyfathrebiadau. Mae’n bwysig fod mudiad fel Plaid Cymru Ifanc yn cynnwys pobl newydd drwy’r amser, ac mae’n bryd imi felly rhoi’r gorau i fod yn rhan o’r criw sy’n arwain y mudiad. Braint enfawr yw fy mod wedi cael y cyfle i weithio a bod yn gyfeillion gyda chynifer o bobl ddawnus ac ymroddedig ar hyd y blynyddoedd, ac rwy’n diolch i bob un ohonynt am eu cyfeillgarwch a’u cefnogaeth. Yn yr un modd, anrhydedd o’r mwyaf oedd cael gwasanaethu fel Cadeirydd Cenedlaethol yn ystod 2012/13. Dymunaf bob llwyddiant i Glenn ac i weddill y Pwyllgor Gwaith yn y dyfodol.
After almost five years on the National Executive Committee of Plaid Cymru Youth (CymruX until 2012), and a great deal of consideration over the past weeks and months, I have tonight tendered my resignation as Director of Press and Communications, effective immediately, to the members of the NEC. It is important that a movement like Plaid Cymru Youth has new people all the time and so it is time for me to give someone else the chance to be a part of the team that leads the movement. It has been a privilege to have been able to work and be friends with so many talented and committed people through the years, and I thank each of them for their support and friendship. It was likewise an honour of the highest order to have served as National Chair during 2012/13. I wish Glenn and the rest of the NEC every success in the future.
Mae’n fy ngwylltio i fod cynifer o bobl yn trin yr etholiad Ewropeaidd sy’n digwydd yr wythnos hon fel refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Gyfunol o’r Undeb Ewropeaidd. Mae statws y DG fel Aelod-Wladwriaeth yr UE yn fater am sgwrs arall ac oes, mae yna lu o bethau i’w trafod ynghylch yr UE ac unrhyw refferendwm y’i gynhelir ar aelodaeth y DG ohono.
Ond, nid yr wythnos hon y cynhelir y refferendwm hwnnw. Yr hyn sy’n digwydd ar draws 28 Aelod-Wladwriaeth yr UE yr wythnos hon yw etholiad i benderfynu pwy sy’n cynrychioli pobloedd Ewrop yn Senedd Ewrop. Yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru yr wythnos hon yw etholiad i benderfynu pwy fydd y pedwar person i gynrychioli Cymru yn Ewrop rhwng eleni a 2019.
Fe weles i lun a rannodd David Cameron ar Facebook yn gynharach. Yn y statws wrth ochr y llun, soniodd mai dim ond y Ceidwadwyr sy’n dymuno ac sy’n gallu rhoi refferendwm ar aelodaeth y DG o’r UE. Wel, fel rwy’ eisoes wedi dweud, nid Etholiad Cyffredinol sy’n digwydd yr wythnos hon. Dewch inni fod yn glir: ni fydd Aelodau Senedd Ewrop o’r Blaid Geidwadol yn gallu rhoi refferendwm i unrhyw un ar unrhyw beth. Ni fydd unrhyw un ar unrhyw bapur pleidleisio yr wythnos hon yn gallu rhoi refferendwm ar aelodaeth y DG o’r UE.
Yr hyn y mae gofyn inni ei wneud yr wythnos hon yw penderfynu pa lais ry’n ni am i’n cynrychioli ni yn Ewrop. A ydyn ni yng Nghymru am gael ein cynrychioli gan rywun sydd eisoes wedi ennill ei phlwyf fel cynrychiolydd cenedlaethol sy’n gweithio’n ddiflino yn Ewrop? Y ydyn ni am gael llais sydd bob amser yn dodi buddiannau ac anghenion ni a’n pobl ni’n gyntaf? A ydyn ni am gael llais sy’n gwrthod ac yn gwrthwynebu rhethreg adain dde, gul? Os felly, nid y Blaid Geidwadol sydd angen pleidleisio drosti, eithr Jill Evans ASE a Phlaid Cymru.
Rwy’n gofyn, felly, wrthoch chi bobl nad ydych wedi penderfynu pwy fyddwch chi’n pleidleisio drostyn nhw ddydd Iau eto, i feddwl yn garcus am ba fath o lais ry’ch chi am i Gymru gael yn Ewrop, ac i bleidleisio dros Blaid Cymru. Ond pa beth bynnag y gwnewch chi, da chi pleidleisiwch. Po lleiaf y nifer o bobl sy’n pleidleisio, po fwyaf y siawns y bydd rhethreg ffiaidd Ukip a’i thebyg yn profi llwyddiant.
Mae ‘da chi lais. Er mwyn dyn, defnyddiwch e.
You have a voice - use it
It infuriates me that so many people are treating this week’s European election as a referendum on the United Kingdom’s membership of the European Union. The UK’s status as a Member-State of the EU is a discussion for another day and yes, there’s lots to talk about in terms of the EU and any referendum that might be held on the UK’s membership of it.
But, that referendum isn’t this week. What’s happening across the EU’s 28 Member-States this week is an election to decide who will represent the peoples of Europe in the European Parliament. What’s happening in Wales this week is an election to decide who will be the four people that will represent Wales in Europe between this year and 2019.
I saw a photo that David Cameron shared on Facebook earlier. In the status alongside the photo, he said that only the Conservatives want to and can deliver a referendum on the UK’s membership of the EU. Well, as I’ve already said, this week isn’t a General Election. Let’s be clear: Conservative Members of the European Parliament will not be able to give anyone a referendum on anything. No one on any ballot paper this week will be able to deliver a referendum on the UK’s membership of the EU.
What we’re asked to do this week is to decide what sort of voice we want to represent us in Europe. Do we in Wales want to be represented by someone who has long since established herself as a national representative who works tirelessly in Europe? Do we want a voice that always puts the needs and interests of us and our people first? Do we want a voice that rejects and opposes narrow-minded, right-wing rhetoric? If so, then we shouldn’t vote Conservative. We should vote for Jill Evans MEP and Plaid Cymru – The Party of Wales.
So I’m asking those of you who haven’t yet decided how you’ll be voting on Thursday to think carefully about what sort of voice you want for Wales in Europe, and to vote for the Party of Wales. But whatever you do, make sure that you do vote. The fewer people who vote, the higher the chance that the disgusting rhetoric of Ukip and its like will see success.
Anya is live and ready to show you everything. Watch her strip, dance, and perform exclusive shows just for you. Interact in real-time and make your fantasies come true.
✓ Live Streaming✓ Interactive Chat✓ Private Shows✓ HD Quality✓ Free Actions
Free to watch • No registration required • HD streaming
Mewn post diweddar ar yr Huffington Post, dadleuodd y blogiwr David Siesage bod penderfyniadau Undebau Myfyrwyr i foicotio cynhyrchion penodol, i wahardd caneuon penodol, i wneud datganiadau gwleidyddion penodol (ac yn y blaen) yn gyfystyr â sensoriaeth.
Fy mhroblem gyda'i baragraff agoriadol yw ei bod, i ryw raddau, yn gwamalu problemau enfawr fel lad culture trwy eu gosod ochr yn ochr wrth ei farn ar Undebau Myfyrwyr. Digon teg - ei farn yw ei farn, ond does dim cymhariaeth rhwng lad culture a phenderfyniad Undebau Myfyrwyr i wneud datganiadau gwleidyddol a chymdeithasol nad yw ef yn cytuno â hwy.
Ei ddadl ef yw: 'By banning and boycotting those things deemed 'unacceptable', students' unions show their deep lack of trust in the wider student population.' Nid wyf yn cytuno. Trwy wahardd neu foicotio pethau sydd yn amlwg yn mynd yn erbyn lles myfyrwyr, mae Undebau yn gwarchod y bobl y mae arnynt ddyletswydd i'w gwarchod, sef eu buddiolwyr - eu myfyrwyr.
Mae cwestiwn ynghylch pa beth sydd bwysicaf: lles y myfyriwr neu'r fyfyrwraig (hynny yw, corff yr holl fyfyrwyr yn un), neu syniadau neu farn myfyrwyr unigol sydd yn mynd yn erbyn lles y myfyrwyr i gyd? Yn gyfreithiol, mae dyletswydd ar Undebau i warchod lles pob myfyriwr, a hyd yn oed os yw un myfyriwr yn dymuno dweud neu wneud rhywbeth sy'n groes i'r cysyniad o les y myfyrwyr i gyd ond yn cyfiawnhau hynny fel rhyddid barn, mae dyletswydd yn parhau ar Undebau i warchod lles eu buddiolwyr i gyd. Mae lles cyffredinol y myfyrwyr yn cael blaenoriaeth dros hawliau unigolion i ymddwyn mewn un ffordd neu'r llall.
Y gwirionedd amdani yw hwn: cyrff gwleidyddol yw Undebau Myfyrwyr. Mae'r hyn y mae Mr Siesage yn ei ddweud yn wir fod datgysylltiad yn digwydd yn llawer rhy aml rhwng swyddogion etholedig a'r myfyrwyr maen nhw'n eu cynrychioli, ond maen nhw wedi eu hethol. Hyd yn oed os taw nifer pitw iawn o fyfyrwyr y'u hetholodd, mae dal ganddyn nhw swydd i'w wneud, ac un o'r swyddi hynny, hyd y gwela i, yw gwneud datganiadau clir ynghylch materion penodol.
A ydyn ni am werthu papur newydd y Sun tra bo'r Sun yn dal i wrthrycholi merched yn ddyddiol? A ydyn ni am chwarae Blurred Lines gan Robin Thicke yn yr Undeb o gofio geiriau anaddas y gân honno? Mae'r pethau hyn yn niweidiol i les merched (a bechgyn hefyd, mae'n wir), a chan ein bod ni'n cynrychioli nifer o ferched, dylem ddatgan yn glir nad ydym yn derbyn y pethau hyn.
A ydyn ni am wneud datganiadau clirion ynghylch y math o Undeb yr ydym ni? A ydyn ni'n credu fod gan merch yr hawl i benderfynu pa beth sy'n digwydd i'w chorff ei hunan pan ei bod yn feichiog? A ydyn ni'n credu ei fod yn annerbyniol pan fo merched sy'n mynd i gael erthyliad yn gorfod wynebu protestwyr yn gweddϊo drostyn nhw? Ys dywed Rhiannon Hedge o UCMC: 'It’s not a question about what we should be free to say. It’s about protecting students, particularly those in vulnerable situations from being given misinformation that is ignorant and dangerous. Lying to women about a women’s rights issue is discrimination. Telling people they can’t spread those lies is not.'
Mae Mr Siesage ac eraill yn dadlau nad oes gan Undebau Myfyrwyr yr hawl neu'r mandad i wneud datganiadau ar ran pob myfyriwr. Dylai'r bobl hyn gofio y caiff swyddogion Undebau eu hethol trwy bleidlais draws-gampws. Hyd yn oed os taw dim ond nifer bach iawn o fyfyrwyr a bleidleisiodd - ac oes, mae yna waith i'w wneud yn hynny o beth - mae'r bobl hyn wedi cael eu hethol i wneud y datganiadau hyn. Nid oes gofyn eu bod yn ymgynghori drwy'r dydd bob dydd ar bob dim maen nhw'n ei wneud ac yn ei ddweud - dyna yw pwrpas eu hethol. Dyna yw democratiaeth: mae unigolion yn cael eu hethol i wneud pethau ar ran yr etholwyr. Wrth gwrs, mae democratiaeth uniongyrchol yn addas ar achlysuron arbennig, ond ar bob penderfyniad? Na. Nid oes angen.
Bydd nifer o fyfyrwyr yn meddwl mai lle i yfed yw eu Hundebau. Ond hyd y gwela i, prif bwrpas Undebau myfyrwyr yw gwarchod lles a buddiannau eu myfyrwyr, ac i wneud datganiadau gwleidyddol a chymdeithasol ar ran y myfyrwyr hynny. Wrth gwrs, os yw undeb yn dweud ei bod yn cydsefyll gyda Phalesteina, wrth gwrs nid yw hynny'n golygu fod pob myfyriwr sy'n aelod o'r Undeb honno'n rhannu'r un farn. Onid yw hynny'n amlwg? Mae gan ddatganiadau felly effaith gymdeithasol, emosiynol, a seicolegol, a dyna sy'n bwysig.
Ydyn, mae Undebau yn aml yn llefydd da i fynd mas ar y pop. Ond mae ganddynt bwrpas pwysicach na bod yn dafarndai. Os yw Undebau am gynnal eu hunain a gweithredu mewn modd sy'n wleidyddol ac yn gymdeithasol gyfrifol, yna mae arnynt ddyletswydd i wneud datganiadau o'r fath.
Nid sensoriaeth yw hynny, ond cyfrifoldeb.
Not censorship, but protecting students' welfare
In a recent post on the Huffington Post, the blogger David Siesage argued that Students’ Unions' decisions to boycott certain products, to ban certain songs, and to make certain political statements (and so on) amount to censorship.
My problem with his opening paragraph is that, to some extent, it trivialises huge problems like lad culture by placing them alongside his opinion on Students' Unions. Fair enough - his opinion is his opinion, but there's no comparison between lad culture and Students' Unions' decisions to make political and social statements that he does not agree with.
His argument is: 'By banning and boycotting those things deemed 'unacceptable', students' unions show their deep lack of trust in the wider student population.' I do not agree. By banning or boycotting things that clearly go against the interests of students, Unions are defending the people whom they have a duty to defend, their beneficiaries - their students.
There is a question of what is most important: the welfare of the student (that is, all students in one body), or the ideas or opinions of individual students which go against the interests of all students? Legally, Unions have a duty to protect the welfare of all students, and even if one student wishes to say or do something that goes against the concept of the welfare of all students but justifies it as freedom of speech or freedom of expression, Unions still have a duty to protect the welfare of all of their beneficiaries as one. The general welfare of the students has precedence over the rights of individuals to behave in one way or another.
The truth of the matter is this: Students' Unions are political organisations. When Mr Siesage says that there is far too often a disconnect between elected officials and the students they represent, he is right, but those officials have been elected. Even if only a very meagre number of students elected them, they still have a job to do, and one of those jobs, as far as I can see, is to make clear statements on specific issues.
Do we want to sell the Sun newspaper while the Sun still objectifies women on a daily basis? Do we want to play Blurred Lines by Robin Thicke in the Union given the inappropriate lyrics of that song? These things are harmful to the welfare of women (and indeed men), and given that we represent many women, we should make it clear that we do not accept these things.
Do we want to make clear statements about the type of Union we are? Do we believe that a woman has the right to decide what happens to her own body when she is pregnant? Do we believe it is unacceptable that a woman, when going into an abortion clinic, is confronted by protesters praying for her? As Rhiannon Hedge of NUS Wales says: 'It’s not a question about what we should be free to say. It's about protecting students, particularly those in vulnerable situations from being given misinformation that is ignorant and dangerous. Lying to women about a women's rights issue is discrimination. Telling people they can't spread those lies is not.'
Mr Siesage and others argue that Students' Unions do not have the right or the mandate to make statements on behalf of all students. These people should remember that Union officials are elected by cross-campus ballot. Even if only a very small number of students voted - and yes, there is work to be done in that respect - these people have been elected to make these statements. There is no requirement that they consult all day every day on everything they do and say - that is why they're elected. That's democracy: individuals are elected to do things on behalf of the electorate. Of course, direct democracy is appropriate on certain occasions, but on every decision? No. There is no need.
Many students think that their Unions are just a place a drink. But as far as I can see, the main purpose of Unions is to protect the welfare and the interests of their students, and to make political and social statements on behalf of those students. Of course, if the union says that it stands in solidarity with Palestine, of course that does not mean that every student who is a member of the Union shares the same opinion. Isn't that obvious? Such statements have a social, emotional, and psychological effect, and that is what matters.
Yes, unions are often good places to go out on the pop. But they have a more important purpose than being pubs. If Unions want to conduct themselves and act in a politically and socially responsible way, then they have a duty to make such statements.
Mae galwadau yr wythnos hon i'r sawl sy'n gyfrifol am y ffars ddiweddaraf ym Mhrifysgol Caerdydd ildio eu swyddi wedi iddynt "embarasio'r Brifysgol yn enbyd". Pan gyfarfu Llys y Brifysgol yr wythnos ddiwethaf, un o'r materion ar yr agenda oedd apwyntio Canghellor newydd i'r Brifysgol, ond fe ddaeth i'r amlwg yn ystod y cyfarfod nad oedd y Brifysgol wedi gofyn i Syr Martin Evans barhau yn y swydd am ail dymor.
Syr Martin oedd arloeswr celloedd bonyn, ac enillodd Wobr Nobel ar gyfer Meddygaeth yn 2007. Mae wedi bod yn Ganghellor y Brifysgol ers pum mlynedd ond bydd ei dymor yn dod i ben yn yr haf.
Fe ddywedodd Syr Martin yn ystod cyfarfod y Llys y byddai wedi ystyried cynnig i barhau yn y swydd am ail dymor yn ffafriol iawn, pe bai cynnig wedi dod o'r Brifysgol. Yn lle, gwnaed cynnig i'r digrifwr Griff Rhys Jones i ddod yn Ganghellor - yn wir, cafwyd lluniau ohono yng ngwisg academaidd y Canghellor ac fe wnaeth gyfweliadau ar gyfer y wasg yn barod at y cyhoeddiad mai ef byddai'r Canghellor nesaf.
Ond roedd nifer o aelodau'r Llys yn teimlo'n grac iawn na gynigwyd y swydd i Syr Martin. Rwy'n cytuno gyda'r bobl hynny. Ys dywed Yr Athro Brian J Ford, 'Griff Rhys Jones is amusing, witty and an excellent comedian; though not a single person in my discussions has seen any relevance of those admirable qualities to the position of chancellor of Cardiff University'. Mae Syr Martin wedi gwneud cyfraniad aruthrol i feddygaeth ac i ddynoltrwy trwy ei waith gwyddonol - dyna pam enwyd Adeilad y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd er ei anrhydedd - a'r awgrym yw bod ei fod yn well gan uwch-staff y Brifysgol i gael rhywun mwy adnabyddus (o fewn y Deyrnas Gyfunol) fel Canghellor na pherson sy'n adnabyddus ar draws y byd am ei gyfraniad i ddynolryw. 'Dw i ddim yn hoff o gwbl o'r syniad y dylid cael seleb fel Canghellor dim ond oherwydd ei fod yn seleb. Mae Griff Rhys Jones yn ddigrifwr uchel-ei-statws, mae hynny'n wir, ond beth yw ei gyfraniad go iawn i'r byd, yn enwedig wrth gymharu â Syr Martin?
Wrth ochr hynny, cofier hefyd bod y Brifysgol wedi dangos anghwrteisi o'r radd flaenaf i Syr Martin. Am ba reswm bynnag, penderfynwyd peidio gofyn iddo barhau fel Canghellor, ac yn ei le, paratoi lluniau a chyfweliadau i'r wasg gan Griff Rhys Jones yn gwybod yn iawn mai Syr Martin fyddai'n cadeirio cyfarfod y Llys ac yn gorfod parhau fel Canghellor hyd nes mis Gorffennaf tra'n gwybod fod yn well gan y Brifysgol rywun arall yn ei le. Pe bawn i yn Syr Martin, byddwn i'n gofyn beth wnes i o'i le, beth wnes i oedd mor wael fod y Brifysgol wedi neidio drosof i a gofyn rhywun arall yn fy lle?
'Dw i'n falch fod cynifer o aelodau'r Llys wedi codi pryderon am y modd y deliodd y Brifysgol â'r mater hwn. Nawr, mae'r Llys wedi anfon y mater at Gyngor y Brifysgol am ystyriaeth bellach. Naill ffordd neu'r llall, mae'r Brifysgol wedi dodi Syr Martin mewn sefyllfa anodd tu hwnt, ac wedi codi cywilydd ar ei hunan. Ac yn wir, mi ddylai fod cywilydd ar bwy bynnag a benderfynodd y byddai'r Brifysgol yn ymddwyn yn y fath modd.
Who will be the next Chancellor?
There are calls this week for those who are responsible for the most recent farce at Cardiff University to resign having “grossly [embarrassed] the University”. When University Court met last week, one of the agenda points was to discuss appointing a new Chancellor for the University, but it was clarified in the meeting that the University hadn’t asked Sir Martin Evans to continue for a second term.
Sir Martin was the pioneer of stem cells and won the Nobel Prize for Medicine in 2007. He has been Chancellor of the University for five years but his term will end in the summer.
Sir Martin said in the Court meeting that he would have considered the offer to continue for a second term very favourably, had an offer been forthcoming. Instead, an offer was made to the comedian Griff Rhys Jones to become Chancellor – indeed, photos were taken of him in the Chancellor’s academic robes and embargoed interviews were given to the press in readiness for the announcement of his appointment.
But a number of Court members were dismayed that the job wasn’t offered to Sir Martin. I agree with those people. As Prof Brian J Ford says, 'Griff Rhys Jones is amusing, witty and an excellent comedian; though not a single person in my discussions has seen any relevance of those admirable qualities to the position of chancellor of Cardiff University'. Sir Martin has made an extraordinary contribution to medicine and to mankind through his scientific work – that’s why the building that houses Cardiff’s School of Biosciences was named in his honour – and the suggestion is that the University’s senior staff would prefer someone more famous (within the UK) as Chancellor than someone who is world-renowned for his contribution to mankind. I do not at all like the idea that we should have a celebrity as Chancellor just because he’s a celebrity. Griff Rhys Jones is a comedian of high stature, that much is true, but what is his contribution to the world, especially compared to Sir Martin?
Aside from that, let's not forget that the University showed such disrespect to Sir Martin. For whatever reason, they decided not to ask him to remain as Chancellor, and instead of him, prepared pictures and interviews by Griff Rhys Jones for the press knowing that Sir Martin would be chairing the Court meeting and would have to continue as Chancellor until July, knowing full well that the University preferred someone else in his stead. If I were Sir Martin, I would ask what I had done wrong, what had I done so badly that the University jumped over me and asked someone else instead of me?
I am pleased that so many Court members raised concerns about the way in which the University dealt with this matter. Now, Court has referred the matter back to University Council for further consideration. Either way, the University has put Sir Martin in a very difficult position, and has embarrassed itself. Indeed, those who decided that the University would behave in such a manner should be ashamed of themselves.
Mae galw gan aelodau Plaid Cymru yn San Steffan i ddefnyddio Bil Cymru i ailenwi'r Cynulliad Cenedlaethol yn Senedd Genedlaethol Cymru.
Pan fo'r syniad wedi codi yn y gorffennol, gwn fod rhai wedi dadlau nad yw'n briodol galw'r Cynulliad yn Senedd neu Parliament nes fod ganddo'r holl bwerau sydd fel arfer yn perthyn i seneddau. Hynny yw, nes fod gan ein deddfwrfa genedlaethol gyfrifoldeb lawn dros e.e. y dreth incwm, amddiffyn, polisi tramor. I ryw raddau, 'dw i'n cytuno gyda'r ddadl honno. Mae'n bosibl y byddai ailenwi'r Cynulliad yn Senedd a'r Aelodau Cynulliad yn rhyw fath o ASCau yn arwain at rai'n meddwl fod yr ymgyrch dros fwy o lais i Gymru wedi bennu. 'Mae 'da ni Senedd go iawn nawr, am beth y'ch chi'n cwyno?'
Ond, yn ei hanfod, dadl yw hon am sut y gwelir, sut yr ystyrir a meddylir am ein deddfwrfa genedlaethol. Mae yna Parliament yn Llundain, mae yna Scottish Parliament yng Nghaeredin, ond ym Melffast ac yng Nghaerdydd, Assemblies sydd. Pam? Mae yna awgrym yn y gwahaniaeth enw fod deddfwrfeydd Cymru a Gogledd Iwerddon yn is eu statws a'u safle. 'Dy'n nhw ddim yn ddigon da i fod yn Parliaments.'
Mae hefyd a wnelo â sut ry'n ni'n hunain yn meddwl am y Cynulliad. Nid yw bodolaeth y Cynulliad yn y cwestiwn - cadarnhawyd fod y bobl am gadw, ac yn wir, cryfhau'r lle yn 2011. Ond gyda bod pwerau newydd yn amryw feysydd yn debygol o ddod i Gaerdydd yn ystod y blynyddoedd nesaf, onid yw'n addas ein bod yn cydnabod statws y Cynulliad fel sefydliad seneddol aeddfed? Ydy.
Cofier hefyd fod cynifer o bobl - pobl gyffredin ac o fewn y wasg - methu gwahaniaethu rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r Llywodraeth. 'It's the Welsh Assembly's fault', medden nhw. Hmm. Nid oedd hen enw'r Llywodraeth, sef Welsh Assembly Government, yn fawr o help yn hynny o beth. Ond byddai rhywun yn meddwl y byddai'r enwau 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru'/'The National Assembly for Wales' a 'Llywodraeth Cymru/Welsh Government' yn galluogi unigolion i ddeall y gwahaniaeth. Ond mae pobl yn dal i ddrysu. Pe bai gennym Lywodraeth Cymru sy'n deillio o Senedd Genedlaethol Cymru, yna mi fyddai'r gwahaniaeth yn gliriach fyth.
Ac o berspectif rhywun sy'n gwerthfawrogi democratiaeth, gwych o beth fyddai pe bai mwy o bobl yn beio'r Llywodraeth, nid datganoli, am fethiannau ym meysydd polisi amrywiol yng Nghymru.
A Parliament for Wales?
Plaid Cymru members in Westminster are calling for the Wales Bill to be used to rename the National Assembly as the National Parliament of Wales.
When this idea has been raised in the past, some have argued that it isn’t right to call the Assembly a Parliament until it has all the powers that usually belong to parliaments. That is, until our national legislature has full powers over e.g. income tax, defence, foreign policy. To some extent, I agree with that argument. It is possible that renaming the Assembly as a Parliament, and renaming AMs as some sort of MWPs would lead to some thinking that the campaign for a stronger voice for Wales is over. ‘We’ve got a proper Parliament now, what are you moaning about?’
But, at its core, this is a debate about how our national legislature is perceived. There is a Parliament in London, a Scottish Parliament in Edinburgh, but in Belfast and Cardiff, there are Assemblies. Why? The difference in name suggests that the legislatures of Wales and Northern Ireland have a lower status and rank. ‘They’re not good enough to be Parliaments.’
This is also to do with how we ourselves think about the Assembly. The existence of the Assembly isn’t in question – 2011 confirmed that the people want to keep, indeed want to strengthen, the Assembly. But with new powers in a number of areas likely to move to Cardiff during the coming years, isn’t it appropriate that we recognise the status of the Assembly as a mature parliamentary institution? Yes, it is.
Remember also that so many people – ordinary people as well as the press – fail to understand the difference between the National Assembly and the Government. 'It's the Welsh Assembly's fault', they say. Hmm. The old name for the Government, the Welsh Assembly Government, wasn’t a great deal of help in that sense. But one would think that the names ‘Cynulliad Cenedlaethol Cymru/The National Assembly for Wales’ and ‘Llywodraeth Cymru/Welsh Government’ would enable people to understand the difference. If we had a Welsh Government that emerged from the National Parliament of Wales, then the difference would be much clearer.
And from the perspective of someone who values democracy, it can only be a good thing that more people know to blame the Government, and not devolution, for failings in public policy in Wales.
Am 12.00 y bore 'ma, daeth Deddf Priodasau (Cyplau o'r Un Rhyw) 2013 i rym yng Nghymru a Lloegr a mae'r 'priodasau hoyw' (fel y'u gelwir) cyntaf wedi digwydd yn yr oriau ers hynny.
Oes, mae yna wahaniaethau yn parhau rhwng cyplau cyfunrywiol ac anghyfunrywiol, yn enwedig o ran yr hawl i etifeddu pensiynau. Ond mae'r gallu i gadarnhau cariad trwy briodas yn hytrach na phartneriaeth sifil yn beth arbennig iawn. Bron iawn nad yw 'arbennig' neu unrhyw air cyffelyb yn ddigon i ddisgrifio mor wych o beth yw hwn.
Nid wyf i ar hyn o bryd mewn sefyllfa i briodi unrhyw un, ond mae gwybod y byddai modd imi wneud pe bawn ryw ddydd yn y sefyllfa honno yn wyrth. Mae'n siomedig mai ond heddiw, yn 2014, y mae hwn yn bosibl ond dyma gam, rwy'n meddwl, yn nes at gydraddoldeb i bawb, pa beth bynnag eu rhywioldeb.
Serch hynny, mae yna waith dal i'w wneud ac mae ymgyrchoedd gan unigolion a sefydliadau fel Stonewall dal yn anghenraid ac yn bwysig. Mae pobl LHDTh yn dal i wynebu gwahaniaethu a rhagfarn, maen nhw'n dal i ddioddef trais am rywbeth nad oes ganddyn nhw bŵer drosto ef. Mae pobl LHDTh mewn gwledydd eraill yn dal i gael eu herlid gan y gyfraith a chan gymdeithas yn gyffredinol. Mae'n hanfodol bwysig nad ydym yn anghofio fod dal angen ymgyrchu a chodi ymwybyddiaeth er mwyn newid y gymdeithas rydym yn rhan ohoni er mwyn cyrraedd sefyllfa ble mae modd i bawb fyw yn gwbl agored heb boeni am y goblygiadau.
Ond am nawr, dewch inni lawenhau mewn rhywbeth cwbl, cwbl wych.
One step closer to equality
At 12.00 this morning, the Marriage (Same Sex Couples) Act 2013 came into force in Wales and England and the first 'gay weddings' (as they're called) have taken place in the hours since.
Yes, there remain differences between heterosexual and homosexual couples, particularly in terms of pension inheritance rights. But the ability to affirm a couple's love by means of marriage instead of civil partnership is a very special thing. Indeed, neither 'special' nor similar words quite cover how fantastic this is.
I am not now in a situation where I could marry anyone, but knowing that I could should I one day be in that situation is truly amazing. It is disappointing that it is only today, in 2014, that this is possible but this is a step, I think, closer to equality for all, regardless of their sexuality.
Despite that, there is still work to be done and the campaigns of individuals and organisations like Stonewall are still necessary and important. LGBT people still face discrimination and prejudice, they still face violence because of something over which they have no power. LGBT people in other countries are still persecuted, both in law and in general society. It's extremely important that we don't forget that campaigning and raising awareness are still needed in order to change the society in which we live so that we might reach a situation where everyone can live openly without fear of the repercussions.
But for now, let's celebrate this utterly fantastic day.
Yn ôl Griff Rhys Jones, mae’r Cymry’n rhy synhwyrol i alw am annibyniaeth. Cytunodd y panel ag ef; Jeff Cuthbert AC o’r Blaid Lafur ac Andrew RT Davies AC o’r Ceidwadwyr yn cytuno nad oes unrhyw awydd yng Nghymru am annibyniaeth.
Dyma fy agwedd i tuag at y peth. Os taw diffyg synnwyr yw:
1. credu fod gan bobl Cymru yr hawl i ddiffinio eu ffawd eu hunain;
2. credu mai yng Nghymru y dylid penderfynu ar bethau sy’n ymwneud â Chymru;
3. credu y dylai Cymru all fynd ar ôl ei pholisïau ei hun yn hytrach na rhai wedi eu gorfodi arni gan Lywodraethau Brydeinig o unrhyw liw nad ydynt erioed wedi bod â gafael ar yr hyn y mae ei angen ar y Cymru;
4. credu y byddai Cymru yn well le ac yn le mwy teg a rhydd pe bai’n siarad â’i llais ei hun yn y byd;
5. credu fod Cymru’n medru siarad â’i llais ei hun gymaint ag unrhyw wlad arall;
6. credu fod y buddiannau y mae Llywodraethau Brydeinig, pwy bynnag sy’n eu ffurfio, yn eu hamddiffyn ac yn eu cynrychioli yn groes i fuddiannau Cymru a’i phobl; ac
7. ar y seiliau hyn oll, credu fod gan Gymru hawl i’w hannibyniaeth
yna, mae’n wir ddrwg gen i, ond rhaid imi gyfaddef yn gwbl ddigywilydd fy mod yn un y byddai Griff Rhys Jones yn ei ystyried yn berson heb synnwyr.
Ond, yr hyn y mae’n ystyried yn ddiffyg synnwyr yw’r hyn yr ydym ni’n ystyried fel bod â gweledigaeth o Gymru sy’n well, yn rhyddach, yn gryfach, yn decach, ac yn fwy cyfartal. Bod â dyheadau am ein gwlad a’i phobl sy’n well ac yn uwch nag unrhyw beth allai Llundain gynnig inni erioed. Credu ein bod ni yn gallu sefyll ar ein traed ein hunain a siarad gyda’n llais ein hunain ac hynny ar ein teilyngdod ni ein hunain. Credu na gyflenwir yr hyn sydd ar Gymru a’i phobl ei angen gan unrhyw Lywodraeth Brydeinig erioed.
Am hynny, mae’n ddrwg gen i Griff, ond fedra i ddim ymddiheuro.
Anya is live and ready to show you everything. Watch her strip, dance, and perform exclusive shows just for you. Interact in real-time and make your fantasies come true.
✓ Live Streaming✓ Interactive Chat✓ Private Shows✓ HD Quality✓ Free Actions
Free to watch • No registration required • HD streaming
Wedi i Lywodraeth Cymru ofyn wrth bapur newyddion The Sun i egluro na fydd unrhyw gynlluniau sydd ar y gweill i newid gwyliau ysgol nac adolygu hyd y diwrnod ysgol i blant yn gymwys ar Gymru, gan fod addysg yn bwnc datganoledig, dyma'r Sun yn cyhoeddi'r 'eglurhad' hwn heddiw.
Mae hwn yn fy ngwneud i'n grac. Mi ddylen i fod yn hapus o weld rhywfaint o Gymraeg mewn papur newyddion Prydeinig (os yw'r Sun yn cyfri fel papur newyddion - mae mwy fel papur clecs). Ond coegni yw hwn, ac mae hynny'n wahanol.
Fe ofynodd Llywodraeth ein gwlad wrth y papur i esbonio rhywbeth sy'n bwysig fod pobl yn ei ddeall. Fe ddywedodd y Llywydd y llynedd fod diffyg dealltwriaeth a gwybodaeth am y system ddatganoledig yn bodoli oherwydd nid yw'r cyfryngau Prydeinig yn rhoi digon o sylw i'r peth. Wel, os daw hwn yw ei syniad o roi sylw i'r peth, maen nhw'n anghywir.
Trwy ysgrifennu'r eglurhad mewn iaith ni fydd mwyafrif helaeth darllenwyr y papur yn ei deall - a chofiwch taw penderfyniad pwrpasol yw hwnnw - yr awgrym yw eu bod o'r farn nad oes angen i bobl ddeall sut mae'r system yn gweithio. Gwneud sbri ar ben democratiaeth yw hwn. Nid yw hynny'n golygu fod defnyddio'r iaith yn golygu nad yw'r mater yn bwysig. I'r gwrthwyneb - pe tasen nhw'n defnyddio'r Gymraeg am eu bod nhw am ei hybu, mi fydden i'n hapus. Ond defnyddio iaith frodorol Cymru ydyn nhw er mwyn gwneud sbri ar Gymru. Gwneud sbri ar y Gymraeg. Gwneud sbri ar y Cymry, a dyw hynny ddim yn dderbyniol.
"We are happy to make this clear", medden nhw. I fwyafrif helaeth y rhai fydd yn darllen y peth, ni fydd unrhyw beth yn glir. Ymysg y bobl hynny, mi fydd nifer, efallai, yn parhau i feddwl fod unrhyw gynlluniau o'r fath sydd ar y gweill yn Lloegr hefyd yn mynd i fod yn gymwys ar Gymru. Mae'r Sun wedi defnyddio'r cyfle hwn i geisio esbonio datganoli er mwyn gwneud sbri ar ben nid yn unig y gyfundrefn ddatganoledig, ond ar ben dinasyddion y wlad hon, ac ar ddinasyddion gweddill y DG.
Yn wir, mae'r holl beth yn jôc i Olygydd Gwleidyddol y Sun, fel sy'n amlwg o'r tweet isod.
Mae'r boi hwn i fod yn Olygydd Gwleidyddol. Mae e i fod yn poeni am wleidyddiaeth. Fel newyddiadurwr gwleidyddol, hyd yn oed i'r Sun, 'dw i'n ei ystyried ef i fod yn was neu'n berson cyhoeddus, ac yn hynny o beth, mae arno ddyletswydd i geisio helpu pobl i ddeall. Yn hytrach, yr hyn mae'n ei wneud yw gwneud sbri ar ben ddatganoli, ar ben Llywodraeth Cymru, ac yn wir, ar ben Cymru.
Yn ychwanegol, 'dw i'n teimlo fod y Sun yn gwneud sbri ar ben y Gymraeg. Maen nhw'n gwybod yn iawn na fydd rhan fwyaf o'i darllenwyr yn medru'r Gymraeg ac maen nhw'n defnyddio'r iaith fel teclyn i wneud jôc ar ben y wlad mae'r iaith yn perthyn iddi.
Os taw dyma yw "genius", ys dywed ein cyfaill Tom Newton Dunn, yna mae'n well gen i fod yn ddỳns.
Diweddariad: Newidwyd y pedwerydd paragraff er mwyn ei wneud yn glir nad wyf yn ystyried defnyddio'r Gymraeg i olygu fod mater yn ddibwys.
After the Welsh Government asked the Sun newspaper to explain that any plans to change school holidays or revise the length of the school day for children will not apply to Wales, as education is a devolved subject, the Sun published this ‘clarification’ today.
This makes me angry. I should be happy to see a bit of Welsh in a British newspaper (if the Sun counts as a newspaper – it’s more of a gossip paper). But this is sarcasm, and that’s different.
Our country’s Government asked the paper to explain something that it’s important that people understand. The Presiding Officer said last year that there is lack of understanding and information about devolution because the British media don’t give enough attention to the subject. Well, if this is their idea of giving attention to it, they’re wrong.
By writing the clarification in a language that the vast majority of its readers won't understand - and remember that that was a conscious and purposeful decision - the paper is suggesting that people don't need to understand how the system works. They're making fun out of democracy. That doesn't mean that using the language means that the issue at hand isn't important. To the contrary, had they have used Welsh because they want to promote the language, I would be happy. But they are using the native language of Wales to make fun out of Wales. To make fun out of the Welsh language. To make fun out of the Welsh people. And that's not on.
"We are happy to make this clear", they say. The vast majority of readers will see nothing clearer. Among those people, there will be many, perhaps, who will continue to think that any such plans in England will also apply to Wales. The Sun has used this opportunity to try and explain devolution in order to poke fun not only at devolution, but also at the citizens of this country, and the rest of the UK.
Indeed, it’s clear from the tweet, below, that it’s all a big joke to the Sun’s Political Editor.
This guy’s meant to be a Political Editor. He’s meant to care about politics. As a political journalist, even for the Sun, I see him as a public servant or a ‘public person’. He has a duty to try to help people to understand. Instead, he’s making fun out of devolution, the Welsh Government, and Wales.
I also feel that the Sun is making fun out of the Welsh language. They know full well that most readers can’t speak Welsh so they’re using our language as a tool to make a joke out of the country which that very language belongs to.
If this is "genius", as our good friend Tom Newton Dunn says, then I’d rather be a dunce.
Update: the fourth paragraph was changed in order to make it clear that I do not equate using the language to the matter at hand being unimportant.
Gwell i mi gyhoeddi'r peth yn swyddogol peth, on'd ife? Wedi ychwanegu Dafydd fel enw canol ac wedi symud Rhys i fod yn rhan o'm cyfenw. Dyma'r llythyr 'dw i 'di sgwennu at fy nheulu i roi gwybod iddynt.
I had better announce it officially, hadn't I? I've added Dafydd as a middle name and have moved Rhys to be a part of my surname. Here's the letter that I sent my family to let them know.
Fe gyhoeddodd Leanne Wood y bore 'ma ei bod wedi ailstrwythuro tîm Plaid Cymru yn y Senedd a bod yna nawr bump o weinidogion yr wrthblaid, gan gynnwys hi ei hun, a'r chwech sy'n weddill yn ddirprwy weinidogion yr wrthblaid.
Ar yr edrychiad cyntaf, dryswch oedd fy ymateb. Sut yn y byd all Llywodraeth weithio gydag ond pump o weinidogion? Ond, 'dw i'n meddwl, wedi arferu gyda llywodraeth orlawn ydw i. Mewn gwirionedd, 'dw i'n meddwl fod penderfyniad Leanne i newid ei chabinet - yr hyn mae'n ei alw'n Gabinet Cysgodol Cymru - yn y fath ffordd yn dangos arweinyddiaeth aruthrol ganddi hi, a 'dw i'n tueddu i gytuno gyda Daran Hill o Positif Politics sy'n dweud: 'This has been her best day so far as leader.'
Yr hyn mae Leanne wedi ei wneud yw cymryd cam ofnadwy o ddewr sy'n ei hamgylchynu ei hun gyda chriw bach ond cryf o bobl allweddol a fydd yn gallu cyfathrebu neges y Blaid rhwng nawr a'r etholiad yn 2016.
Mae'r penderfyniad i gynnwys Rhun ap Iowerth yn y Cabinet Cysgodol yn ddiddorol. Nid oes chwe mis wedi bod ers iddo ddod yn Aelod Cynulliad yn yr is-etholiad ac yn yr amser byr hynny, mae'n debyg fod Leanne wedi dod i'r casgliad ei fod yn haeddu swydd uwch na nifer o'i gydweithwyr sy'n wleidyddion llawer yn fwy profiadol. Penderfyniad strategol yw rhoi swydd fel gweinidog yr wrthblaid - a phortffolio'r economi, yn arbennig - i Rhun; cafodd fuddugoliaeth ysgubol yn yr is-etholiad ar Ynys Môn fis Awst diwethaf ac mae Leanne yn gwybod yn iawn os yw Rhun yn gallu dyblygu ei boblogrwydd ar ochr hon Pont y Borth yna mae cynnwys Rhun yn y Cabinet Cysgodol yn syniad da. Wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu mai ei boblogrwydd yw'r unig reswm dros ei gynnwys yn y Cabinet Cysgodol. I'r gwrthwyneb - mae wedi bod yn ymgyrchydd dyfal ar faterion economaidd ar Fôn felly 'dw i ddim yn amau y bydd yn lais cyn gryfed dros Gymru oll.
Nodedig hefyd yw'r penderfyniad i gynnwys cyfrifoldeb dros y Gymraeg mewn portffolio gweinidogol, ac hynny ar wahân i bortffolio Leanne ei hun fel arweinydd. Wedi i Leighton Andrews ymddiswyddo, wrth gwrs, penderfynodd y Prif Weinidog symud cyfrifoldeb dros y Gymraeg i mewn i'w bortffolio ef ei hun. Dichon taw penderfyniad ffôl oedd hynny, ond mae'n ddiddorol bod Leanne wedi symud y Gymraeg yn ôl i fod yn rhan o'r Adran Addysg, ac yn benodol fod 'yr iaith Gymraeg' yn rhan o deitl y portffolio.
Mae hefyd yn glir fod Leanne wedi cydnabod y 'prif' sectorau polisi - hynny yw, y rhai mae pobl ar y stryd yn poeni amdanyn nhw fwyaf - a bod y meysydd y mae dirprwy weinidogion yn gyfrifol amdanynt yn naturiol yn rhan o'r 'prif' sectorau. Er enghraifft, mae gwasanaethau cymdeithasol yn rhan naturiol o les; mae trafnidiaeth yn rhan hanfodol o'r economi a menter (er, rwy'n amau efallai fod trafnidiaeth yn haeddu ei phortffolio ei hun). Hynny yw, mae Leanne wedi 'mireinio' a 'miniogi' (ys dywed datganiad y Blaid i'r wasg) ei chabinet cysgodol fel bod modd i Blaid Cymru gyfleu ei neges yn glir ar y pethau hynny sydd bwysicaf i bobl Cymru. Penderfyniad craff iawn, iawn.
Trwy ailstrwythuro'r cabinet cysgodol, a thrwy hynny creu Cabinet Cysgodol Cymru, mae Leanne wedi dangos ei bod wir yn bwriadu mai Plaid Cymru fydd yn arwain llywodraeth nesaf Cymru. Mi fydd hynny'n wych o ran morâl aelodau'r Blaid ar lawr gwlad ar draws Cymru, ond hefyd yn wych o ran yr etholwyr.
Leanne Wood announced this morning that she has restructured the Plaid Cymru team in the Senedd and that there are now five shadow ministers, herself included, with the remaining six becoming shadow deputy ministers.
At first sight, I was a little confused. How could a Government function with only five ministers? But, I think I might be too used to bloated governments. Actually, I think that Leanne’s decision to change her cabinet – what she calls Wales’ Cabinet in Waiting – in the way she has shows extraordinary leadership on her part, and I tend to agree with Daran Hill from Positif Politics who says: 'This has been her best day so far as leader.'
What Leanne has done is take an extremely brave step that surrounds herself with a small but strong team of key people that will be able to communicate the Party of Wales’ message between now and the election in 2016.
The decision to include Rhun ap Iorwerth in the Cabinet in Waiting is interesting. Not even six months have passed since he became an Assembly Member and in that short time, it seems that Leanne has come to the conclusion that he deserves a more senior position than many of his colleagues who are much more experienced politicians. Giving Rhun a shadow minister's job - and the economy portfolio, in particular - is a strategic decision; his success in the Ynys Môn by-election last August was stunning and Leanne knows full well that if Rhun can replicate his popularity this side of the Menai Bridge, including him in the Cabinet in Waiting is a good move. That's not to say, of course, that his popularity is the only reason why he's in the Cabinet in Waiting. Quite the opposite - he has been an ardent campaigner on economic issues on Anglesey so I have no doubt that he will be just as strong a voice for the whole of Wales.
Noteworthy also is the decision to include responsibility for the Welsh language in a ministerial portfolio, and indeed a ministerial portfolio separate to her own as leader. After Leighton Andrews' resignation, of course, the First Minister moved responsibility for the language into his own portfolio. Perhaps that was a foolish decision, but it's interesting that Leanne has moved the language back to the Education Department, and in particular that 'the Welsh language' is part of the portfolio's title.
It is also clear that Leanne has acknowledged the ‘main’ policy sectors – that is to say, the ones that people on the street care most about – and that the deputy ministers’ policy sectors fit naturally into the ‘main’ sectors. For example, social services are a natural part of well-being; transport is a crucial part of the economy and enterprise (although, I think that transport may well deserve its own portfolio). That is, Leanne has ‘streamlined’ and ‘focused’ (as said in the party’s press release) her shadow cabinet so that the Party of Wales can convey its message clearly on those things that are most important to the people of Wales. A very, very astute decision.
By restructuring her shadow cabinet, and thereby creating Wales’ Cabinet in Waiting, Leanne has shown that she truly intends for Plaid Cymru to lead Wales’ next government. That will be great in terms of party members’ morale at grassroots level, but will also be great in terms of the voters.
'Dw i wedi ailwampio'r blog 'ma ychydig. Wedi cael gwared ar fy hen byst i gyd - er, does dim amheuaeth eu bod nhw mas 'na ar y we yn cuddio mewn rhyw archif rywle. O'r blaen, blog personol o'dd hwn gyda thipyn o bopeth arno - ro'dd 'na gerddoriaeth, barddoniaeth, gwleidyddiaeth, teledu. 'Dw i'n meddwl wna i gadw'r blog at wleidyddiaeth o hyn allan. 'Dw i ddim yn meddwl wna i ysgrifennu'n rhy gyson - pan 'dw i 'di cadw blog o'r blaen 'dw i 'di ysgrifennu ond er mwyn ysgrifennu, mae wedi mynd yn iawn am fis neu ddau, a wedyn... marw. Mi wna i ysgrifennu pan fod gen i rywbeth i'w ddweud - rhywbeth i'w ysgrifennu. Pa bwrpas ysgrifennu am unrhyw reswm arall?
I've changed this blog a bit. All of my old posts are gone - although, I'm sure they're hiding in some archive somewhere. This was an all-round personal blog with a bit of everything on it - music, poetry, politics, television. I think I'll keep it to politics from now on. I don't think I'll write too often - when I've kept a blog before, I've written for writing's sake, it's gone okay for a month or two and then... it's died. I'll write when I have something to say - something to write. What's the point in writing for any other reason?