Byd digidol?
‘Dw i ddim yn mynd i gytuno neu anghytuno, clodfori na barnu, unrhyw beth a ddywedodd Mike Parker, ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion, na’r Cynghorydd Huw Thomas, ymgeisydd y Blaid Lafur yno, flynyddoedd yn ôl. Nid oherwydd fy mod am osgoi gwneud unrhyw ddatganiadau gwleidyddol, neu am fod gen i ddim teimladau perthnasol (credwch chi fi, mae gen i). Y rheswm ‘dw i ddim yn mynd i gytuno neu anghytuno’r naill ffordd na’r llall yw, wir i chi, dyw rhywbeth gwnaeth Mike Parker ysgrifennu mewn erthygl yn 2001 pan oedd yn ysgrifennwr teithio proffesiynol, na rhywbeth yr ysgrifennodd Huw Thomas ar Maes-E pan oedd yn fyfyriwr yn 2006, o fawr o bwys imi.
Weithiau, mae’r hyn mae rhywun wedi ei ddweud yn gallu bod yn arwydd o’i natur nhw, ‘dw i’n derbyn hynny. Er enghraifft, pe bai Mike Parker wedi dweud fod pob Sais yn ffasgwr hiliol ac yn ffiaidd, neu phe bai Huw Thomas wedi annog pobl i achosi trais yn erbyn Saeson yn ystod Cwpan y Byd, byddwn yn cwestiynu a yw’r un ohonynt yn ymgeiswyr addas i’w pleidiau.
Ond y gwirionedd amdani yw ein bod yn byw mewn byd ble mae modd i unrhyw un gyhoeddi unrhyw beth ar unrhyw adeg. Ar unrhyw foment, mae dau neu dri ddyfais ar fy mherson y galla i eu defnyddio i bostio rhywbeth ar y we yn gyhoeddus i’r byd cael ei weld. Ry’n ni hefyd yn byw mewn byd pan fod unrhyw un sydd â digon o allu technolegol (a digon o amser ar ei ddwylo hefyd) yn gallu atgyfodi rhywbeth dadleuol y dywedodd neu a wnaeth unrhyw berson arall flynyddoedd ynghynt.
‘Dw i’n trydar yn weddol aml. Ar adegau, ‘dw i wedi trydar pan fy mod i wedi meddwi, neu phan fy mod yn grac, ac wedi dyfaru gwneud. Gan fy mod i’n berson sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth – sydd wedi bod yn ymgyrchydd ac sy’n gweithio fel cyfathrebwr ac ymgyrchydd proffesiynol – ‘dw i efallai braidd yn fwy gofalus na’r person ar y stryd.
Mae pobl wastad wedi dweud a gwneud pethau dadleuol, pethau maen nhw efallai’n dyfaru. Y gwahaniaeth yw: erbyn hyn, mae fwy neu lai yn amhosibl dileu’r pethau hynny o gof bythol y we fyd-eang. Duw a ŵyr fy mod i bownd o fod wedi dweud pethau dadleuol yn y gorffennol a allai peri problemau imi pe bawn i erioed yn sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad. Hyd yn oed os na ‘dw i wedi dweud unrhyw beth dadleuol, ‘dw i bendant wedi dweud pethau ar Twitter ac ar Facebook sy’n embarrassing. Gofynnwch wrth unrhyw un fy oedran i a ydyn nhw’n gwingo a’n gwrido pan fo nhw’n edrych ‘nôl ar y pethau y dywedon nhw ar Facebook (neu MySpace, Bebo, ayyb) pan oedden nhw’n iau. Heb os, yr ateb fydd eu bod nhw.
I ryw raddau, ar wleidyddion mae’r bau am fod yn barod i ddefnyddio pethau o’r fath yn erbyn ei gilydd er mwyn ennill pwyntiau gwleidyddol byr-dymor. ‘Dw i’n deall pam fo nhw’n gwneud hynny, wrth gwrs, ond ry’n ni gyd yn gwybod fod gan bawb fwganod yn y cwpwrdd os edrychwch chi’n ddigon agos.
Yn ogystal, mae bau ar y cyfryngau am wneud yn fawr o’r pethau hyn. Oes wir ots am rywbeth ddywedodd rhywun mewn erthygl bron i bymtheg o flynyddoedd yn ôl, neu rywbeth ddywedodd rhywun arall ar fforwm ar-lein pan oedd yn fyfyriwr? ‘Dw i’n tueddu i feddwl nad oes unrhyw ots o gwbl.
Mae’n hen bryd i ni gyd – gan gynnwys gwleidyddion a’r cyfryngau – sylweddoli ein bod yn byw mewn byd digidol. Edrychwch ymlaen ddeng mlynedd neu ugain mlynedd. Mae’n hollol hurt i feddwl y bydd y cyfryngau’n ysgrifennu straeon am bopeth twp wnaeth bob ymgeisydd erioed ddweud – os daw dyna wnawn nhw, fydd dim amser ‘da nhw ar gyfer newyddiaduraeth go iawn!
Sa i’n gwybod beth fydd goblygiadau gwleidyddol yr helynt diweddar i’r ddau ŵr y soniais amdanynt, er mae’n siŵr fod gan bob un ei farn ei hun am hynny. Ond ‘dw i’n gwybod fod pethau fel hyn yn gwneud mwy i ddatgysylltu pobl rhag wleidyddiaeth na’u hannog i fod yn ddinasyddion sy’n cyfranogi ac yn poeni am etholiadau a’r bobl sy’n ein cynrychioli. O gofio taw dim ond rhyw 45% o bobl 18-24 mlwydd oed wnaeth pleidleisio yn ystod yr Etholiad Cyffredinol diwethaf, a bod miloedd o bobl ifanc – pleidleiswyr tro cyntaf – wedi cwympo bant o’r gofrestr etholiadol, mae ‘da’r Sefydliad eitha lot o feddwl i’w wneud am sut mae’n mynd i ymdopi â’r byd gwleidyddol yn y 21ain ganrif – ‘dw i ddim yn argyhoeddedig o bell ffordd ei bod yn gwybod beth mae’n wneud.
















