Pwy sydd yn arwain?
“Os wyt ti'n gwneud pethau sydd yn ysgogi eraill i freuddwydio mwy, i ddysgu mwy, i wneud mwy ac i fod yn fwy, yna arweinydd wyt ti.” John Quincy Adams
Pwy yw ein harweinwyr ni yng Nghymru? Pwy sydd yn dewis ein dyfodol fel pobl, fel cenedl? Â Wel, chi, sydd yn darllen hwn. Â Yn fwy arbennig, ti sydd yn darllen y geiriau yma nawr.
Un o ddiffiniadau gorau “arweinydd” yw'r dyfyniad uchod John Quincy Adams, 6ed arlywydd Unol Daleithiau America.
Cymer eiliad i feddwl i ti dy hunan, wyt ti'n ysgogi eraill i freuddwydio, i ddysgu, i wneud ac i dyfu? Â Efallai yn bwysicach, a wyt ti'n ceisio dy hunan i freuddwydio, i ddysgu, i wneud ac i dyfu? Â Ac os na, pam ddim?
Oherwydd, dyna sydd, a dyna fydd yn dewis dy ddyfodol di fel unigolyn, a'n dyfodol ni fel cenedl, sef sut ydyn ni'r Cymry yn meddwl amdanon ni ein hunian, ac am ein cyd-Gymry.
Mae person sydd ddim yn tyfu eisioes yn marw, ac mae cenedl o bobl sydd wrthi'n marw yn farw ei hunan. Â
Ond i'r gwrthwyneb, bydd person sydd yn mynnu tyfu, yn mynnu dysgu, yn mynnu byw, yn arwain ei hunan at lwyddiant a chyfoeth – nid cyfoeth ariannol, o bosib, ond cyfoeth o brofiad, o gynnwrf, o dwf personol, y cyfoeth a ddaw o gyrraedd y nod, o gyrraedd potensial.
P'un wyt ti? Â I ba gyfeiriad wyt ti'n arwain dy hunan? Â Neu wyt ti wedi gadael i fywyd dy arwain di i ba gyfeiriad y myn?












