Gwaddol Walter Dickie: helpu mentrau dielw i ffynnu
Dymaâr bedwaredd ran aâr un olaf yn ein cyfres gan enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2017 Steve Brooks, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru. Yma maeân crynhoiâr hyn y mae wediâi ddysgu diolch iâr bwrsari, aâr hyn a fu o gymorth iddo ar ei daith
âChiân edrych yn brysur, dwiân gweld eich bod yn recriwtio etoâ.Â
Sylw dros ysgwydd oedd eâ, a ddywedwyd wrthaâi fis diwethaâ gan gyfarwyddwr yn y diwydiant rheilffyrdd, ond fe arhosodd gyda mi. Roedd yn arwydd bod Sustrans yn mynd iâr cyfeiriad cywir.Â
Fel y mwyafrif o elusennau, mae Sustrans wedi gorfod ailffocysu ac ailstrwythuro, i raddau helaeth oherwydd mesurau cyni. Roedd arian Ewropeaidd ac arian y loteri wedi galluogi Sustrans Cymru i ehangu cyfleusterau cerdded a beicio ledled Cymru dros sawl blwyddyn. Dwiân falch oân gwaith ar gynlluniau fel Pont y Ddraig yn y Rhyl, Pont y Werin rhwng Caerdydd a Phenarth, a Rhwydwaith Beicioâr Cymoedd. Roedd llawer o waith iâw wneud o hyd, ond fe wnaeth economi a oedd yn gwaethygu ac amgylchedd cyllido mwy heriol orfodi Sustrans Cymru i newid ei ffordd o weithio.
Ymunais â Sustrans Cymru fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol fis Hydref 2016. Roedd y mudiad wedi gorfod lleihau o ran maint, a thraâr oedd ein gweithrediadau yn dal i fod yn ariannol hyfyw ac o fudd cymdeithasol, roedd yna deimlad ymysg rhai fod ein dyddiau gorau y tu Ă´l i ni, nid oân blaenau. Canolbwyntiais ar dair blaenoriaeth yn fy nghynllun ar gyfer fy 12 mis cyntaf:Â
Meddylfryd y mudiad â newid meddylfryd yr elusen o hiraeth i gyfleoedd
Codi ein proffil aân dylanwad allanol
TwfÂ
Mae pob un oâr tri yn gyd-ddibynnol, ond yn ganolog i fy syniad i o âarweinyddiaeth entrepreneuraiddâ â yr hyn y mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn ceisio ei feithrin.Â
I mi, mae arweinyddiaeth entrepreneuraidd yn ffordd o weithio yn gymaint ag y maeân fath o unigolyn. Ei hanfod yw gweld angen am newid a meddwl am ffordd ymarferol o gyflawniâr newid hwnnw syân ariannol hyfyw ac (yn hanfodol i entrepreneuriaid cymdeithasol) yn rhoi buddion y tu hwnt i elw.Â
Fe wnes i ddau beth gydaâr bwrsari. Defnyddiais yr arian i gofrestru â rhaglen Heriau Byd-eang Trafnidiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen a threulio amser yn Nosbarth Meistr Copenhagenize Design Company. Rhoddodd hyn gyfle i mi edrych yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol ar sut y gallwn alluogi pobl i ddewis dulliau mwy cynaliadwy o deithio o A i B, a dwi wedi trafod y ddwy agwedd hyn yn fy mlogiau blaenorol.Â
(Darllenwch flogiau arall Steve ar ei brofiadau efoâr bwrsari: Ailfeddwl Entrepreneur; Cydweithio Ymarferol, Pan Foch yn Nenmarc)
Ond roedd y bwrsari hefyd yn gatalydd i wneud ychydig o waith allgyrsiol ar arweinyddiaeth. Dwiân credu bod yr hen ystrydeb âmaeân bwysig treulio amser ar eich busnes yn ogystal ag yn eich busnesâ yn taro deuddeg, ac fe roddodd y bwrsari y cyfle i wneud hynny.Â
Cafodd tri llyfr ddylanwad ar fy ffordd o feddwl (dau ohonynt yn llyfrau yr oeddwn wediâu darllen oâr blaen). Mae âYouâre in Charge, now whatâ gan Neff & Citrin yn rhoi cyfarwyddyd ymarferol rhagorol ar arweinyddiaeth strategol; ac mae Alistair Campbell yn âWinners: And how they succeedâ yn dadansoddi strategaeth, arweinyddiaeth, tĂŽmyddiaeth (teamship) aâr meddylfryd eich bod am ennill. Cyflwynodd cadeirydd WCVA Peter Davies fi i âHow to Change the World, the essential guide for social sector leadersâ gan Craig Dearden-Phillips syân cynnwys cyfweliadau ag arweinwyr elusennau a mentrau cymdeithasol.Â
Roedd araith Laura McAllister yn CCB WCVA yn 2017 hefyd wedi taro tant clir â mi, yn enwedig pan alwodd ar i arweinwyr yng Nghymru fod yn llai swil. Ac fe rannodd Sue Essex, cyn-weinidog yn llywodraeth Rhodri Morgan, ei phrofiad treiddgar â mi mewn digwyddiad a gyflwynais yn gynharach eleni gyda Capital Law oâr enw âHeads Upâ.Â
Mae sawl ffordd o dorriâr gacen hon, ond i mi hanfod hyn oll ywâr 11 wers ganlynol:Â
Llunio gweledigaeth ac adrodd stori. Darluniwch weledigaeth oâr dyfodol. Diffiniwch y weledigaeth honno, sicrhewch mai chi syân berchen arni ac ailadroddwch hi, yn ddiddiwedd. Os nad ydych chiân adrodd eich stori, bydd rhywun arall yn ei hadrodd, a fwy na thebyg nid dynaâr stori yr hoffech iddi gael ei hadrodd.Â
Llunio uwchgynllun personol. Nid strategaeth eich mudiad yw hwn. Nid eich amcanion personol yw eâ hyd yn oed. Maeân fynegiad oâch agenda hirdymor chi. Yr hyn yr ydych chi am ei gyflawni yn eich rĂ´l. Does neb yn dechrau swydd yn siarad am yr amser pan fyddant yn gadael, ond amser cyfyngedig sydd gan arweinwyr. Dylech werthfawrogi faint o amser sydd gennych, gwybod yr hyn yr ydych am ei wneud, a phryd y maeâr gwaith ar ben ac yn amser trosglwyddo i rywun arall.Â
Bywâch steil o arwain. Ni fyddai elusen dibyniaeth ar alcohol yn cynnal derbyniad diodydd mewn cynhadledd wleidyddol i drafod gosod isafswm pris ar alcohol, gan ei fod yn amlwg yn tanseilio ei chenhadaeth. Dylaiâch ymddygiad fel arweinydd fod yn gyson ââch uwchgynllun personol. Eisiau arwain elusen syân rhoiâr egwyddor o gynnwys buddiolwyr wrth wraidd ei gwaith? Peidiwch â bod yn unben â drws eich swyddfa ynghau. Nid hanfod arweinyddiaeth go iawn yw bod yn chiâch hun, heb ystyried neb arall. Ei hanfon yw bod y chi y mae pobl eraill oâch cwmpas angen i chi fod. Byddwch yn barod i newid a gweithio y tu allan iâch cynefin, gan arwain drwy esiampl.Â
Creu lle i feddwl. Nid peth moethus yw hyn â maeân hanfodol. Dywâr arweinydd elusen syân ymffrostio wrth gwyno âDwiân rhy brysurâ ddim yn gwneud ei waith yn iawn. Eich cyfrifoldeb chi yw gweld safbwyntiau eraill, siarad ââch buddiolwyr, gofyn cwestiynau, herio rhagdybiaethau, cwestiynu tystiolaeth, deall eich cyllidwyr, meddwl am y dyfodol. Gall byrddau cynghori ac ymddiriedolwyr eich cefnogi aâch herio â ond dyw hynny ddim yn disodli creuâch lle eich hun i feddwl.Â
Gwahodd her â gwers gan Rhodri Morgan. Dylech fynd ati i annog y rheini oâch cwmpas iâch herio. Roedd y cyn-brif weinidog yn chwilioân benodol am bobl a fyddaiân ei herio, yn ei wrthwynebu, yn dadlau ag ef. Maeân ehanguâch meddwl ac yn miniogiâch dadl. Cofiwch ei bod yn bosib na chafodd staff eu hannog i wneud hyn oâr blaen, felly cefnogwch bobl iâch herio.Â
Cydweithio. Ond cydweithiwch yn dda. Dyw paned a chlonc ag elusen arall y mae ei chenhadaeth yn gorgyffwrdd yn fras ag un chi ddim yn cyfrif fel cydweithio. Cymerwch yr awenau a dod o hyd i bobl yr hoffech gydweithio â nhw. Ar Ă´l diffinioâch gweledigaeth, gofynnwch i chiâch hun pwy rydych ei angen iâch helpu iâw gwireddu? Pwy syân rhannuâch gweledigaeth? Dewch o hyd iddyn nhw, gweithiwch gyda nhw, ond parchwch nhw â peidiwch ââu defnyddio. Dylech dal brynu paned iddyn nhw.Â
Adeiladuâch tĂŽm a thrin pobl â pharch. Peidiwch ag ymhel mewn mân-ryfela, na gwleidyddiaeth swyddfa. Peidiwch â gwneud pethauân bersonol. Dylech feithrin eich tĂŽm aâr bobl yr hoffech weithio gyda nhw. Datblygwch nhw. Cefnogwch nhw. Treuliwch amser gyda nhw. Rhaid cydnabod eich bod angen pobl ddawnus a chefnogaeth gan y rheini yr ydych yn eu harwain. Ond cofiwch maiâch cyfrifoldeb chi yw delio gyda phobl na all wneud y gwaith neu syân gwrthod gwneud y gwaith. Derbyniwch hynny â dyna pam rydym ar gyflog uwch.Â
Darllen. A darllen mwy. Ac yna darllen mwy fyth. Mae llyfr nodiadau yn llawn syniadau yn well na mewnflwch sydd wediâi wagio o bob ebost. Yn Oxfam, roedd y cyfarwyddwyr gweithredol yn cael wythnos astudio gydaâi gilydd bob blwyddyn. Mae angen deall y gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae angen i chi ei wybod, aâr hyn nad oes angen i chi ei wybod. Ni ellir ennill gwybodaeth a dod yn wybodus drwy dorri corneli.Â
Deall eich cyd-destun. Meddyliwch am eich amgylchedd gweithredu allanol. Meddyliwch am fygythiadau a chyfleoedd. Dadansoddwch. Ni allwch ddarogan dyfodol eich mudiad, ond gallwch gynllunio ato.Â
Peidio byth â chymryd dim byd yn ganiataol. Os oes gan eich elusen genhadaeth yn seiliedig ar eiriolaeth neu ymgyrch, peidiwch byth â chymryd yn ganiataol eich bod wedi ennill. Atgyfnerthwch eich safle yn gyson ac, ar yr un pryd, gwthiwch yr agenda ymhellach ymlaen. Cadarnhauâr hyn yr ydych eisoes wediâi gyflawni yn ogystal â gwneud cynnydd pellach.Â
Peidio byth ag anwybydduâr manylion. Treuliwch amser ar y lefel gywir (gweledigaeth, strategaeth, tĂŽm, proffil, arloesedd) a pheidiwch â chael eich sugno i mewn iâr mân bethau. Ond peidiwch byth bythoedd ag esgeuluso cydymffurfiaeth aâr gwaith beunyddiol allweddol. Y pethau bach a aiff o chwith y mae pobl yn sylwi arnynt ac a all eich brathu. Os arweinydd ydych chi ac nid rheolwr, sicrhewch fod gennych reolwyr da oâch cwmpas.Â
Steve Brooks yw enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2017, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru ac maeân trydar @stephenbrooksUK. Gallwch ddarllen y flog cyntaf yn y cyfres yma.
Mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2018 yn awr yn agor i ceisiadau. I gael gwybod mwy am y bwrsari, ewch ar y dudalen we neu cysylltwch ag Alun Jones.

















