“Beth yw’r canlyniad penodol mesuradwy” - Tony Robbins
Ro’n i mas ar y beic bore ma. Gwelais i fan gosodwr briciau ar yr heol, a dechreuais i feddwl.
Beth yw canlyniad gwaith brici?
Ai’r wal frics *yw* canyliad y brici? Neu ai hyn a hyn o waliau brics er mwyn ennill hyn a hyn o arian i roi bwyd ar y ford?
Ai wal frics yw’r canlyniad, neu rwystr sydd yn cadw ei deulu’n sâff tra’n gwneud blaen ei dŷ yn bert?
Ai wal frics yw’r canlyniad, neu banel o waith bric cain er mwyn denu mwy o gwsmeriaid fydd yn talu mwy am ei waith?
Gall unrhyw un o’r canlyniadau hyn fod yn wir ar adegau gwahanol, ac ar gyfer pob un canlyniad mae set gwahanol o weithrediadau, o ran yr amser bydd y gwaith yn cymryd, o ran ansawdd y defnyddiau, o ran pwysigrwydd y cynllunio a’r paratoadau.
Ac os taw denu mwy o waith pris uchel yw’r canlyniad, efallai bydd ein brici yn troi lawr gwaith bwyd-ar-y-ford er mwyn cael gwell lif gwaith yn y dyfodol.
Os yw’r brici am fynd heb fwyd heddi er mwyn cael digonedd o fwyd fory, bydd rhaid iddo wybod yn iawn beth yw’r cynllun, beth yw’r freuddwyd, beth yw’r canlyniad, er mwyn iddo fod yn gyfforddus yn ei groen ei hunan, hyd yn oed - neu efallai yn enwedig - pan mae ei gyd-weithwyr yn chwerthin am ei ben, a'i deulu yn gofyn iddo pam mae e'n “gwastraffu ei amser”.
Fel y brici, os ydyn ni am greu rhywbeth, newid rhywbeth, neu gyflawni rhywbeth arbennig, mae'n bosib iawn y bydd y byd yn trio'n gwyro oddi ar ein llwybr. Â Os wyt ti'n gwybod dy ganlyniad, neu yn hytrach, yn ei adnabod yn dda, byddi di'n gwybod yn gwmws ble mae dy anel di. Â
Dyna sut mae cyrraedd y nod.