Cynhadledd – Galwad am bapurau: Diwylliannau ‘Lleiafrifol’ a Theithio
Cynhadledd – Galwad am bapurau:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, 14-16 Medi 2015
Ar y cyd â Chyfnewidfa Lên Cymru ac Amgueddfa Ceredigion
Prif siaradwr: Yr Athro Michael Cronin (Prifysgol Dinas Dulyn)
Cyfweliad: Ned Thomas yn holi’r awdur Basgeg Kirmen Uribe
 Mae’r gynhadledd ryngddisgyblaethol hon yn cwestiynu’r cysyniad o ddiwylliant ‘lleiafrifol’ gan fwrw golwg ar deithio a llên deithio. Yn y cyd-destun hwn, gellir deall y syniad cymhleth a dadleuol o ‘leiafrif’ fel un ieithyddol, diwylliannol, ethnig neu ddaearyddol-wleidyddol. Mae thema’r gynhadledd yn deillio o waith y prosiect ‘Teithwyr Ewropeaidd i Gymru: 1750-2010’ a noddir gan yr AHRC, ac yn ceisio ehangu ei rychwant i gwmpasu diwylliannau a elwir yn ‘lleiafrifol’ o bedwar ban y byd. Yng nghyd-destun y datblygiadau yn yr Alban a Chatalwnia, lle ail-drafodir hunaniaethau diwylliannol yng nghyswllt hegemoni gwleidyddol, yn ogystal â’r digwyddiadau yn Wcráin, lle mae hunaniaethau lleiafrifol gwahanol yn brwydro dros gydnabyddiaeth ddiwylliannol yn erbyn cefndir o orthrwm a difreiniad gwleidyddol, mae’r thema yn arbennig o dymhorol.
Bydd y gynhadledd hon yn edrych ar nodweddion y berthynas rhwng diwylliannau ‘lleiafrifol’ a theithio. Ei thema ganolog yw cysylltiad teithwyr â’r lleoedd y maent yn ymweld â hwy a’u hymatebion i’w profiadau yn yr ‘ardal gyswllt’ (Pratt 1992) neu’r ‘ardal gyfieithu’ (Apter 2006). Sut y mae teithwyr yn meddwl am ac yn ymwneud â diwylliannau ‘lleiafrifol’? Sut y mae eu gweithiau yn adlewyrchu deinameg newidiol y berthynas rhwng y ‘canol’ a’r ‘cyrion’? Sut maent yn ymdrin ag anweledigrwydd posibl ac ansymudoledd tybedig diwylliannau ‘lleiafrifol’? I ba raddau y maent yn atgyfnerthu neu’n herio deuoliaethau hegemonaidd/ ‘lleiafrifol’, neu’n ystyried y berthynas rhwng diwylliannau ‘lleiafrifol’ a’i gilydd? Yn yr un modd, sut y mae hunaniaeth ddiwylliannol/ statws teithwyr o ddiwylliannau ‘lleiafrifol’ yn dylanwadu ar eu profiadau teithio a’r ffordd y maent yn ysgrifennu amdanynt? I ba raddau y gellir defnyddio teithio a genre llên deithio fel cyfryngau i alw am gydnabyddiaeth ddiwylliannol a gwleidyddol ar gyfer diwylliannau ‘lleiafrifol’ a’u gwneud yn fwy gweladwy? A oes modd adnabod traddodiad llên deithio sy’n gysylltiedig ag awduron o ddiwylliannau ‘lleiafrifol’? O fewn y math hwn o draddodiad, i ba raddau y mae angen rhoi sylw i ffactorau eraill sy’n nodweddu’r teithiwr, megis dosbarth a rhywedd?
Croesewir papurau o wahanol fframweithiau theoretig, cyd-destunau diwylliannol a chyfnodau hanesyddol. Gall papurau ganolbwyntio ar amrywiaeth o ffynonellau testunol ac arteffactau gweledol, yn cynnwys llyfrau teithio, llythyrau, gohebiaeth, dyddiaduron, gweithiau llenyddol, celfyddyd gain a rhaglenni dogfennol.
 Gall pynciau gynnwys y canlynol, ond nid ydynt wedi’u cyfyngu iddynt:
Teithwyr o ddiwylliannau ‘lleiafrifol’.
Teithio mewn diwylliannau ‘lleiafrifol’ a chenhedloedd di-wladwriaeth.
Anweledigrwydd, hegemoni a globaleiddio.
Cysylltiadau rhwng diwylliannau ‘ymylol’.
Teithiau ac ieithoedd â defnydd llai.
Llên deithio a chyfieithu.
Astudiaethau ‘mudoledd’ (‘mobility studies’).
 Gwahoddir cynigion o 300 gair ar gyfer papurau sy’n para am 20 munud.
Anfonwch eich crynodebau trwy e-bost at Dr Rita Singer ([email protected]) erbyn 31 Hydref 2014.
Croesewir cynigion ar gyfer papurau unigol neu ar gyfer panelau parod o dri siaradwr gyda chadeirydd. Gellwch draddodi papurau yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
Trefnwyr: Carol Tully (Prifysgol Bangor), Kathryn Jones (Prifysgol Abertawe), Heather Williams a Rita Singer (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth).
Am fwy o wybodaeth am y prosiect, ewch i’n gwefan: http://etw.bangor.ac.uk
 Prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a noddir gan yr AHRC, mewn cydweithrediad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Ceredigion a Chyfnewidfa Lên Cymru.