Bertrand Russell
Ganed Bertrand Russell ym mhentref Tryleg, sir Fynwy, i deulu rhyddfrydol a dylanwadol yn perthyn ir aristocratiaeth Brydeinig. Bu farw ei fam, ei dad a'i unig chwaer cyn i Bertrand gyrraedd ei bedair oed. Gofalwyd amdano, a Frank, ei frawd saith mlynedd yn hýn, gan rieni'r tad yn eu tỷ ym Mharc Richmond, Llundain. Bu farw eu taid, y cyn-Brif Weinidog, yr Arglwydd Russell, ddwy flynedd wedyn, gan adael y ddau frawd dan ofal eu nain.
Chafodd Russell ddim ysgol ffurfiol ond daeth cyfres o diwtoriaid ir tỷ i geisio'i roi ar ben ffordd, a dysgodd yn gyflym. Erbyn cyrraedd ei arddegau cynnar roedd yn hogyn unig a sensitif iawn yn cael ei boeni gan obsesiynau rhywiol a dirgelion crefydd. Cafodd gyfnodau o iselder ysbryd dwin a'u harweiniodd at ystyried hunanladdiad. Yn ôl ei dystiolaeth ei hun, fe'i hachubwyd ơr felan gan ei frawd a gyflwynodd waith Ewclid iddo: 'This was one of the great events of my life, as dazzling as first love. I had not imagined that there was anything so delicious in the world.' O'r eiliad hwnnw, meddai, mathemateg oedd ei brif ddiddordeb a gwneud mathemateg oedd yn rhoi'r hapusrwydd mwyaf iddo.
Camp y Groegwr Ewclid yn ei lyfr Elfennau (tua 300 cc) oedd datblygu geometreg gam wrth gam a dangos bod ganddi sail gadarn a rhesymegol. Mae cenedlaethau o blant ysgol wedi cael eu magu ar Ewclid ac wedi cael eu cyflwyno i'w ddull o ymresymu. I Russell, roedd y dull hwnnw'n gwbl glir o'r cychwyn cyntaf ac roedd ganddo brofiad, o'r diwedd, fod yna sicrwydd iw gael yn y byd hwn, a hynny'n tawelu ei feddwl ac yn rhoi hyder iddo fentro ymhellach. Hynny hefyd a'i hysbrydolodd i ganolbwyntio yn ei waith ar fathemateg i geisio gosod rhifyddeg ar sail gadarn hefyd- roedd Ewclid wedi cyflawni'r gamp gyda geometreg ac roedd yn hen bryd i rywun wneud yr un peth â rhifyddeg. Dyna'r her a lywiodd flynyddoedd cynnar ei yrfa, sef, yn syml, i ateb y cwestiwn sut y gallwn fod yn sicr, yn gwbl sicr, fod 'un ac un yn gwneud dau'.
Treuliodd Russell y rhan helaethaf o'i fywyd llawn a lliwgar ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, gyda chynodau mewn prifysgolion eraill ym Mhrydain a thramor. Dychwelodd i Gymru am 15 mlynedd olaf ei oes ym Mhlas Penhyn, ger Portmeirion, rhwng Penrhyndeudraeth a Phorthmadog.
Ar un olwg, roedd penderfyniad Bertrand ac Edith Russell i symud o brysurdeb Llundain i dawelch sir Feirionnydd yn annisgwyl, a dweud y leiaf, ond roedd yno hefyd nifer o atyniadau. Yn ystod y 1950au a'r 1960au roedd y rhan hon o Gymru rhwng traethau Eifionydd a mynyddoedd Eryri wedi dod yn lle ffasiynol i fyw'r bywyd bohemaidd: daeth yn atyniad ir avant-garde, yn artistiaid a llenorion, yn sosialaidd eu tueddiadau gwleidyddol, a phensaerniaeth Clough Williams-Ellis ym Mhortmeirion, yn arbennig, yn symbol o gynnwrf y cyfnod.
Does dim prinder hanesion am y teulu yng nghof trigolion lleol, rhai yn pwysleisio eu harwahanrwydd, fel cofio gweld Russell a Williams-Ellis yn eu trwseri pen-glin ar strydoedd Penrhyndeudraeth. Mae rhai hefyd yn hanesion mwy personol, fel atgof un o drigolion Minffordd sy'n cofio mynd yn ddisgybl 16 oed ar y trên yn ddyddiol ir ysgol uwchradd yn Harlech ac weithiau'n cael cwmni Russell am ran o'r daith, yntau'n sgwrsiơn agored gyda'r plant a hwythau'n rhyfeddu at ei Saesneg uchel-ael.
Ond nid pawb oedd yn cynhesu at y gŵr rhyfeddol hwn yn ei fro newydd - fel yr hogiau ar sedd gefn bws ysgol a welwyd yn tynnu wynebau ar Russell wrth ir bws ei basio. A cheir hanesion lleol hefyd am rai o arferion 'anarferol' y teulu ym Mhlas Penrhyn o ran eu dewis o fwyd neu eu tuedd i grwydro'r ty yn hanner noeth.
Ar ben ei waith academaidd, roedd Russell hefyd yn ymgyrchydd brwd dros heddwch. Yn 1958 roedd yn un o sefydlwyr CND (Campaign for Nuclear Disarmament), yr ymgyrch dros ddiarfogi niwclear, ac ef oedd ei unig lywydd. Gymaint oedd ei ddylanwad a'i gysylltiadau yn y byd gwleidyddol yn ogystal â'r byd academaidd, cred rhai mai Russell oedd y ddolen gyswilt hollbwysig rhwng Nikita Khrushchev, arweinydd yr Undeb Sofietaidd, a John F. Kennedy, Arlywydd America, yn ystod argyfwng taflegrau Ciwba yn 1962. Yn ôl rhai, telegramau Russell a sicrhaodd fod y naill ochr yn gallu cyfathrebu ar llall gan lwyddo i osgoi cyflafan niwelear. Mae'r hanesydd Deian Hopkin yn cofio bod yn than o orymdaith ceir yn 1962 yn cludo aelodau CND o goleg Aberystwyth i Benrhyndeudraeth i fod yn gefn i ymdrechion Russell. Ar y pryd roedd yna ymdeimlad cryf ymhlith aelodau CND a'r boblogaeth yn gyffredinol nad oedd ganddynt y pwer i ddylanwadu ar wleidyddion ac mai troi at Russell oedd eu hunig obaith. Wrth edrych yn ôl ar y cyfnod, mae Hopkin or farn bod dylanwad Russell yn llai na'r hyn a dybiwyd gan yr ymgyrchwyr ifanc.









