Dechrau edrych yn wych/Well this is all starting to look pretty amazing! #MaeYnaLe #ThereisaPlace @nofit_state_circus @jani.circus @jessaerial #circuseverydamnday #circus #acrobat #circuscircus #aerial #aerialrope #syrcas #bangor

seen from United States
seen from United States
seen from South Korea
seen from United States
seen from Russia

seen from United States
seen from Romania
seen from United Kingdom

seen from United States
seen from Yemen
seen from China

seen from Russia
seen from United States
seen from Spain
seen from United Kingdom

seen from United Kingdom

seen from Türkiye
seen from Maldives
seen from Switzerland
seen from United States
Dechrau edrych yn wych/Well this is all starting to look pretty amazing! #MaeYnaLe #ThereisaPlace @nofit_state_circus @jani.circus @jessaerial #circuseverydamnday #circus #acrobat #circuscircus #aerial #aerialrope #syrcas #bangor

Anya is live and ready to show you everything. Watch her strip, dance, and perform exclusive shows just for you. Interact in real-time and make your fantasies come true.
Free to watch • No registration required • HD streaming
Mae NoFit State yn ôl - a’r tro hwn, mae pobl ifanc Bangor efo nhw!
Bydd NoFit State, y cwmni syrcas cyfoes byd-enwog o Gaerdydd, a berfformiodd i gynulleidfaoedd gorlawn ym Mangor gyda'u sioe BIANCO, yn dychwelyd i Fangor fis nesaf (12 a 13 Mawrth) am ddeuddydd yn unig i berfformio sioe a gomisiynwyd yn arbennig yng nghanolfan gelfyddydau ac arloesi newydd Pontio.
Bydd 'Mae Yna Le/There is a Place' yn dod â phrif berfformwyr NoFit State a phobl ifanc o bob rhan o Fangor ynghyd ar gyfer sioe gorfforol yn Theatr Bryn Terfel lle bydd theatr, syrcas, ffilm a cherddoriaeth fyw yn cydblethu.
Lluniwyd a chrëwyd y sioe gan yr awdur-gyfarwyddwr Firenza Guidi, ac mae'n edrych ar gysyniad y lle arbennig hwnnw lle rydym yn mynd i freuddwydio, lle mae popeth yn bosibl.
Yng ngeiriau Firenza Guidi a phlant ardal Bangor:
"Mae yna le lle mae popeth yn bosib
Mae yna le lle gallaf fod yn fi fy hun a mil o bobl eraill
Mae yna le lle gallwch glywed blodau'n tyfu a cherrig yn sibrwd alawon syml
Mae yna le lle mae bydoedd yn cyfarfod bydoedd
Ganllath o adref."
Mae'r project, sydd wedi cael cefnogaeth hael gan Grŵp Watkin Jones a'i hwyluso drwy BLAS, cynllun cyfranogol Pontio i bobl ifanc, yn cynnwys perfformiadau gan ddisgyblion o Ganolfan Addysg y Bont, Ysgol Friars, Ysgol Bro Ddewi, Ysgol Hirael ac Ysgol Glancegin, ac mae sawl ysgol leol arall wedi bod yn rhan o'r broses greadigol. Mae Ed Wright o Electroacwstig Cymru hefyd wedi bod yn gweithio gydag ysgolion ar elfennau cerddorol y project.
Un o'r rhai a fydd yn perfformio ochr yn ochr â NoFit State am y tro cyntaf yw Dylan Williams, a fagwyd yn yr ardal ac a fu'n ddisgybl yn Ysgol y Garnedd ac Ysgol Tryfan. Yn wir, ei ymddangosiad cyntaf ar lwyfan oedd, yn addas iawn, yn Theatr Gwynedd mewn fersiwn gerddorol o'r nofel 'Enoc Huws’. Aeth yn ei flaen wedyn i’r Coleg Cerdd a Drama Brenhinol ac ers hynny mae wedi cael gyrfa lwyddiannus fel actor ar y llwyfan a'r sgrin, gan deithio dros y byd i gyd. Bu hefyd yn rhan o gast dathlu 25 mlynedd o Les Misèrables yn yr O2 yn 2010. Mae Dylan wedi gweithio gyda'r awdur-gyfarwyddwr Firenza Guidi ers dros 15 mlynedd ac ar sawl cynhyrchiad.
Meddai Dylan, "Mae'n wych bod yn rhan o'r sioe ac yn wych gweld cwmni o statws NoFit State yn ôl yma yn fy nhref enedigol. Dw i'n edrych ymlaen yn fawr at gael bod yn rhan o un o'r cynyrchiadau syrcas cyfoes cyntaf yn Pontio, a gwneud y gorau o'r hyn sydd gan yr adeilad anhygoel hwn i'w gynnig.”
Cynhelir perfformiadau ddydd Sadwrn, 12 Mawrth am 7pm a dydd Sul, 13 Mawrth am 2pm ac mae tocynnau'n £10 / £5 gostyngiad. Mae tocynnau ar gael ar-lein yn www.pontio.co.uk; drwy ffonio 01248 38 28 28 neu drwy alw yng Nghanolfan Gelfyddydau ac Arloesi Pontio, Bangor.
Gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru