Fy Ardal I - Cerdd gan Mererid Hopwood
Fy Ardal I gan Mererid Hopwood
Mi ges i fy ngeni yn ninas Caerdydd, lle mae strydoedd sy'n siarad dan doeon ynghudd.
Mi ges i fy magu yn ardal Llandaf, lle mae tai tal sy'n gwylio llif hen afon Taf.
Mi ges i fy nghodi'n sΕ΅n "a" sy'n dweud "e", lle "Cerdiff" nid "Cardiff" yw enw'r hen dre.
Mi ges i fy swyno rhwng Gwanwyn a Haf gan flodau coed ceirios yn y caeau mawr, braf.
Mi ges i fy nysgu mewn ysgol Gymraeg lle'r oedd tΓ’n ym mhob calon dros tafod y ddraig.
Mi ges i wers siomi a gwers tynnu coes, a chael gwers am gyfrinach gwerth ffrind bore oes.
A phob tro yr af yno, rwy'n gwybod y bydd llond dinas o groeso'n dweud "Deffra! Mae'n Ddydd!"











