| Y F F U G |
Y FFUG
Mae’r Ffug wedi dod i’r amlwg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oherwydd ei fuddugoliaeth ym mrwydr y bandiau C2. Rhaid dweud, roedden yn haeddiannol i ennill. Braf cael dweud bod ganddyn nhw EP yn dod allan ym mis Mawrth gyda chwech can sy’n well na lawer o ganeuon Cymraeg y bandiau ‘hyn’. Mae’r geiriau yn taro’ch calon fel cyllell megis yn y gan ‘Llosgwch y tŷ i lawr’: “lladdwch eich rhieni. Woo!” a “croeswch y motorway, ‘da dwylo dros dy lygaid”
Ar bapur mae hwn yn swnio fel y geiriau mwyaf depressing erioed. OND, mae’r band yn defnyddio’r “Morrissey effect” ble mae’r geiriau’n dywyll ond gyda cherddoriaeth a melodi hapus. Mae’r EP yn dangos naws heriol ond gyda thiwn sy’n aros yn y cof, dylanwad y Manics yw’r amlycaf arni.
Y Ffug, y band sy’n gwneud i hunanladdiad i swnio’n bleserus.
EP Y FFUG: *dim trefn*
Arnofio
Llosgwch y ty I lawr
O fewn fy hunan
Nos Sadwrn
Cariad Dosbarth Canol Cymru
Cariad a Thrais
(recordiwyd yn Fflach, Aberteifi)
Sam Rhys













