Dros y penwythnos, yng Nghymru Fydd.
Wel, mae hi wedi bod yn anodd cyfarwyddo â dychwelyd iâr presennol eto ar Ă´l diwrnod penigamp yn ein fersiwn ni o Gymru Fydd dydd Sadwrn diwethaf.
Fel Ifan Powel, mentrom oll i fydoedd newydd ac archwilioâr Gymru Fydd, a hynny drwy sgyrsiau a chyflwyniadau amrywiol, hwy oll yn defnyddio cyd-destunnau dyfodolaidd fel sbardun iâr drafodaeth.
Yn rhan oâr diwrnod, cefais gyfle i gadeirio panel a oedd yn cynnwys Elidir Jones, Ifan Morgan Jones a Gareth Llyr Evans, a bwrw ati i drafod llenyddiaeth ffuglen wyddonol. Nid yn unig yr oeddwn yn edrych ar y traddodiad ffuglen wyddonol a ffantasi yn Gymraeg ac archwilio sawl agwedd oâr traddodiad hwnnw, ond roeddwn yn holi pam nad oedd yn genre poblogaidd yng Nghymru.
Mae Radio Beca eisoes wedi rhoiâr sesiwn hon ar eu gwefan - cliciwch yma i wrando - yn ogystal â chyflwyniad Bleddyn Bowen, âEconomi Wleidyddol y Gofodâ, a oedd yn esbonio potensial unrhyw ymgyrch ofodaidd yng Nghymru.
Cyn hynny, clywon gyflwyniad arbennig Elizabeth LaPensee, âHealing Historical Trauma Through Gamesâ (iâw weld ar ei chyfrif Vimeo) a chlywed hefyd safbwynt Daf Prys oâr datblygiadau ynghyd ââr posibiliadau yn y cyd-destun Cymreig.Â
Maes o law, cawsom gipolwg ar waith Geraint Ffrancon a David Morgan-Davies, Ystrad Strata, a gwylio fideo arbennig gan Hefin Jones, Cosmic Colliery.
Serch hynny, un o uchafbwyntiauâr dydd i mi oedd ymuno ym mherfformiad Eddie Ladd a Nico Dafydd a oedd yn gwahodd pawb i gofnodi nofel ffuglen wyddonol, Owain Owain, Y Dydd Olaf.
Dyma nofel sydd allan o brint, ac maeân ddiawledig o anodd cael gafael ar gopi. Dim ond ambell un oâr gynulleidfa (gan gynnwys fy hun) sydd wedi llwyddo i fachu copi a darllen y nofel, ac i ni, dyma ddysgu arwyddocad newydd iâr geiriau wrth eu cofnodi fel pytiau yn y fan hon. Iâr gweddill, roedd yn gyfle i brofi pytiau oâr nofel.
Gig yn cynnwys HMS Morris, Roughion a traciau Carl Morris a orffennodd y noson, a oedd, heb os, yn ddathliad teilwng o bob dim dyfodolaidd yng Nghymru.
Roedd hiân ddiwrnod iâw gofio.
Felly cyn mynd⌠*Hoffwn ddiolch i Rhodri am fy ngwahodd i drefnu gydag ef.
* Nid yn unig hynny, ond diolch iâr Adrannau Cymraeg ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, i gwmni Telesgop ac i Arad Goch am eu cefnogaeth wrth drefnuâr diwrnod.
*Diolch hefyd i bob cyfrannwr am eu sgyrsiau difyr, ac i HMS Morris, Roughion a Carl Morris am ddarparuâr gerddoriaeth gosmig gydaâr nos.
*Ac yn olaf, diolch i bawb a ddaeth a chefnogi Diwrnod yng Nghymru Fydd.
Gobeithio cawn fynd YN ĂL IâR DYFODOL cyn bo hir!














