Yn ystod tymor y gwanwyn 2007 fe sylwon ni fod Gillian Elisa yn cŵl, ag y byddai hi yn reit hwyl ei gweld yn perfformio... yn ein ystafell fyw. Aethom ati i sgwennu y llythyr canlynol iddi hefo ambell i gelwydd bach gwyn i rannu ein gwerthfawrogiad am ei dawn ac i geisio ei dennu i ganu yn ein caretref. Mae'r hyn sy'n dilyn yn e-bost go iawn a gafodd ei yrru i'r actores amryddawn...
Rwyf yn ysgrifennu ar ran fy ngwraig Kimberley Moreland sydd yn ffan mawr ohonoch. Mae penblwydd ein priodas yn prysyr neshau ac rwyf yn benderfynnol o wneud rhywbeth arbennig y flwyddyn hon gan i mi anghofio yn gyfan gwbwl llynedd ( a cefais affair ).
Felly rwyf yn eich gwahodd i'n difyrhau ar noswaith fawrth yr pymthegfed o Fai 2007. Yn eich cwmni llawenhawn! Byddwn yn fodlon cynnig gwely a brecwast, ac efallai swper ysgafn o'r ansawdd gorau.
Rydym yn byw yn Sling, ger Tregarth, ger Bangor - yr un pentref lle magwyd John Ogwen - actor arall o fri. (Efallai eich bod wedi ei weld ar Tipyn o Stad).
Os fyddai'n bosib i chi wisgo yr wisg ddeiniadol yma byddwn yn hynod ddiolchgar....
Rydym ein dau wedi dilyn eich gyrfa yn llawn diddordeb ers yr wythdegau cynnar, ond mae'n rhaid deud ein bod wedi siomi gyda eich penderfyniad i ymadael a Pobol y Cwm. Dyma reswm arall pan ddylech ddod i'n difyrhau.
I ddweud y gwir efallai eich bod yn ein adnabod - fe ofynnom am lofnod gennych un eisteddfod ( Bala ).
Ar y noson cawn wrando arnoch yn canu ac ein difyru gyda llawen ddawns ac yna eisteddwn i wylio y ffilm Cinderella III ( a twist in Time ) gyda photel o win - mwy na thebyg o'r Iseldiroedd.
O Gillian Elisa! Edrychwn yn malen i glywed gennych. Fydd yn noson fyth-gofiadwy a direudys.
Bydd yn llawenhau fy ngwraig am flynyddoedd i ddod, ac yn achyb ein priodas.
Ein rhif ffôn ydi - 077xxxxxx
Yn anffodys, ni ddaeth Gillian i'n diddanu OND roedd ddigon caredig i yrru'r canlynol....
Diolch yn fawr am y geiriau caredig a'r gwahoddiad i berfformio. Mae'r dyddiad 15fed o Fai yn anodd i mi oherwydd dwi wrthi'n ffilmio yn y stiwdio, ie,.. Pobol Y Cwm .. ac mi fydd Sabrina'n datgelu ble mae hi wedi bod.
Mae'n wir ddrwg gen i fy mod i'n methu a'ch helpu y tro 'ma.... falle gyda fwy o rhybudd ... y bydden i'n gallu dod i'ch diddanu. Ond yn anffodus mae'r "schedules" wedi cael i rhoi allan ddoe.
Diolch eto am feddwl amdana i ac dwi'n gobeithio y caiff Kimberley a chithe diwrnod i'w gofio.....
Llongyfarchiadau mawr.....
D.S. Oes ganddo chi fy CD diweddara?O'r enw "Lawr Y Lein" Os na mi na i ddanfon un i chi os gwnewch chi e-bostio eich cyfeiriad.
Chware teg iddi, mae ganddi class. Faswn i wedi deutha ni am ffyc off!