Post gwych arall yn y blog yma sy'n edrych ar gysylltiadau rhwng iaith a thirwedd. Mae'r syniad o sut mae'n bosib rhamanteiddio iaith drwy gadw'r cystrawen wreiddiol wrth gyfieithu yn un diddorol iawn, dwi'n meddwl. Ia, mae 'na beryg o leoli iaith yn y gorffenol wrth wneud hyn, ond eto, mae cystrawen unigryw yn gallu bod yn ran nodweddidol iawn o iaith ac felly mae peryg ein bod ni'n colli drwy fabwysiadu cystrawen y 'targed'. Cyd-destun, am wn i h.y. fysa'n od cadw cystrawen y wreiddiol mewn testun 'arferol' (beth bynnag ydi hynny) ond, gyda enwau llefydd, mae pethau'n fwy cymleth, dwi'n meddwl. http://gathering-alecfinlay.blogspot.co.uk/p/knowe-or-knoll_27.html