9Bach / Anian - Galeri Caernarfon 27/5/16 - Photo: Dewi Glyn Jones
Do’n I heb sylweddoli y bydda’I ‘na fand yn cefnogi 9bach yn ystod eu gig olaf ond un o’u taith Prydeinig, felly dipyn o sioc oedd gweld dwy ferch ifanc (Catriona Price ac Esther Swift) yn camu I’r llwyfan; un yn cydio mewn ffidl a’r llall yn nesau at delyn drwy niwl a duwch y gofod. Nes I feddwl “Oh Na” gan nad ydwiI wir yn ffan o gerddoriaeth llym-draddodiadol Albanaidd os dwi’n hollol onast. Ond yn araf bach ges i’n narbwyllo nad band llym-draddodiadol oedd Twelfth Day, ac ro’n I wedi fy nghyfareddu yn llwyr wrth iddyn nhw berfformio fersiwn lloft stabal o Street Lights gan Kanye West. Do’n I wir heb ddisgwyl honna! Roedd hi’n set oedd yn bownsio. Y delyn a’r ffidl yn cadw oed, y rhythmau yn newid gêr bob yn ail pennill, a’r harmonia’, er mond yn leisiau bychain, yn gweddu’n berffaith i naws y band. Âr ôl egwyl byr, a chyfla i bawb ga'l glasiad o win a lleisio'i barn am y "ddwy hogan fach" o'dd newydd ein llorio ni gyd, mi fentrodd pawb yn ôl i’r theatr i weld y band gwerin ‘ma sydd wedi swynno Cymru a thu hwnt yn y blynyddoedd diwethaf-9Bach. Mi ddechreuo nhw hefo trac cyntaf yr albwm- Llyn Du, ac mi fydda'i wedi bod digon hawdd i chi gredu mai CD oedd yn chwarae, nid band byw. Y band wedi gosod allan yn gymesur- y dynion a thrymdra y dryms a gitars yn y cefn, ar merchaid o'u blaen yn rhoi ryw fflytyr ar ben y metal fel tasa nhw'n taflyd llond llaw o gonffeti rhosod dros bob cord. Er bod ‘na duwch mawr yn perthyn i'r caneuon (Roedd Lliwiau yn eithriad- cymhariaeth Lisa Jen o roi genedigaeth a bod mewn raves anghyfreithlon yn chwarel Dorothea!), roedd hiwmor Lisa yn ysgafnhau popeth, a'i pharodrwydd i siarad hefo'r dorf yn lleihau'r teimlad ffurfiol o wylio gig mewn theatr, ac roedd chydig o heclo hwyliog hyd yn oed. Roedd pob can yn don ar ôl toh- Ni fel yr ewyn yn cael ein cario gan lif y band. Defnydd Martin o glider ac effeithiau bizzare gitar yn gneud i ni gwestiynnu be, a lle oedd yr holl haenau a synnau. Lisa a Mirain Haf yna'n dangos eu doniau wrth chwarae llond dwsin o offerynnau amrywiol, a’r ddelwedd o Lisa yn chwarae drwm mor filwriaethus yn aros yn y co. You go girl! Roedd na newid eto yn y gân olaf gyda naws parti ska go iawn. Alawon Lisa yn fy atgoffa o feistroldeb Yma Sumac, gyda alawon yn efelychu synnau hudolus y "call to prayer" islamaidd.I Ma'n anheg galw 9bach yn fand gwerin erbyn hyn. Falla bod eu gwreiddiau cerddorol gwerinol mor ddyfn a'u hanian yn Eryri, ond yn bendant, band y byd ydi 9bach bellach.
Lara Catrin













